Trysorau Cristnogol

Dwi’n siŵr fod pawb ar ryw adeg neu’i gilydd wedi cael yr un profiad ag y cefais i yr wythnos diwethaf. Roeddwn i wedi addo gwneud rhywbeth yn dalog a difeddwl ac yna dim ond sylweddoli fy mod wedi gwneud llwyth o addewidion eraill ar gyfer yr un wythnos pan roedd hi’n rhy hwyr – sef ar ôl eu gwneud nhw.

Y peth oedd yn pwyso arna i fwyaf oedd yr addewid i roi sgwrs i Gymdeithas Staff Cristnogol Aberystwyth ar drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol. Roeddwn i wedi addo y buaswn yn gwneud ers oesoedd, ond roedd trefnu amser wedi profi’n anodd. O’r diwedd fe ddaeth yr amser ond yng nghanol prysurdeb mawr. Roeddwn i hefyd yn bwriadu traddodi fy sgwrs yn Gymraeg ac roeddwn braidd yn betrusgar y byddai’r siaradwyr Cymraeg a fyddai’n dod i’r digwyddiad yn gwybod y cyfan oedd gen i i’w adrodd yn barod ac felly byddai gwrando ar fy sgwrs yn brofiad diflas iddynt hwy. Ond roeddwn i wedi addo ac felly doedd dim byd amdani ond gwneud yn ôl yr addewid.

Rhyw dri chwarter awr oedd gen i i gyflwyno ac fe alla i ddweud fy mod wedi’i chael hi’n anodd i gynnwys popeth yn y amser hwnnw. Pan ddaeth hi i draddodi yr oedd yn rhaid imi orffen erbyn 2.00pm ac roedd gen i ryw 10 munud o’r cyflwyniad yn weddill. Ond wrth draddodi dros yr awr ginio rhaid bod yn ofalus iawn i beidio â mynd dros amser o gwbwl gan fod pobol â chymaint o bethau yn galw arnyn nhw.

Roedd yn rhaid dechrau gydag esbonio beth oedd ystyr ein termau: beth yw ‘trysor’ a beth yw ‘trysor Cristnogol’? Rhaid imi gyfaddef imi beidio â cheisio mynd ar ôl hynny’n ormodol. Ond roedd yn rhaid imi ddweud hanes am sut mae’r hyn a ystyrir yn drysor yn amrywio o gymdeithas i gymdeithas ac yn dibynnu ar y gwerth a roir ar wrthrychau.

Dysgais i’r wers am werth wrth siarad gyda rhai o Gristnogion India oedd wedi dod i’r Llyfrgell Genedlaethol am fod cofnodion a chofysgrifau yn ymwneud â Chymdeithas Genhadol Dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn cael eu cadw yno. Roedd y maes cenhadol yn cynnwys Bryniau Khasia ac roedd papurau yn ymwneud â rhai o’r cenhadon a fu’n bennaf gyfrifol am gyfieithu’r Testament Newydd i iaith Khasi yno. Fel sy’n arferol mewn cadwrfa fel y Llyfrgell Genedlaethol mae eu papurau a’u gwrthrychau eraill yn cael eu cadw mewn blychau sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer y gwaith. Ond ymateb ein hymwelwyr oedd “What? You keep the papers of the greatest people that ever lived in a box?” Ac roedd ‘na siom i’w weld ar eu hwynebau nad oedd holl adeilad y Llyfrgell yn ei grynswth yn gofeb i’r bobl oedd wedi cyfieithu’r Ysgrythurau sanctaidd i’w hiaith ac wedi dod â neges yr efengyl i’w gwlad.

Yr allwedd i ddeall beth yw trysor mewn gwirionedd yw agwedd yr ymwelwyr yma o India. Eu trysor hwy, a’r trysor go iawn sydd gennym ni fel Cristnogion yw’r efengyl, y newyddion da am obaith a bywyd newydd sydd yn dod i ni trwy Iesu Grist. A dyma beth ddywedodd Iesu ei hun am drysor:

Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.

I’r rhai sydd â diddordeb dyma restr gweddol foel o’r hyn yr oeddwn i wedi’u dewis fel trysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol. Maen nhw wedi’u trefnu’n gyffredinol yn ôl amser.

  • Delw Crist (13 ganrif) ar glawr Llyfr Llandaf (Llawysgrif LlGC 17100E).
  • Llyfr Du Caerfyrddin (13 ganrif) (Llawysgrif LlGC Peniarth 1) sy’n cynnwys y gerdd Cyntefin ceinaf amser a’r emyn Gogoneddog Arglwydd, henffych well.
  • Piers Plowman (15 ganrif) (Llawysgrif LlGC 733B). Cerdd Saesneg Canol yn ymwneud â chais yr awdur am y bywyd Cristnogol go iawn.
  • Llyfr oriau De Grey (15 ganrif) (Llawysgrif LlGC 15537C) llawlyfr ar gyfer gweddi a defosiwn personol.
  • Yny lhyvyr hwnn gan Syr John Price (1546), y llyfr Cymraeg cyntaf i’w argraffu gan un o ddynion y syniadau newydd am grefydd.
  • Gweithiau William Salesbury. Ysgolhaig gwych a gysegrodd ei ddysg i gyfieithu’r Ysgrythurau i’r Gymraeg ac i daenu’r syniadau newydd am grefydd.
  • Y drych Cristionogawl (1585), ymgais dilynwyr yr hen ffydd i gadw Cymru yn ffyddlon.
  • Beibl 1588. Gwaith yr Esgob William Morgan; does dim angen mwy o esboniad.
  • Morgan Llwyd. Diwygiwr crefyddol adeg y chwyldro Seisnig ac awdur (Llawysgrif LlGC 11431B).
  • Griffith Jones, Llanddowror. Mae hi’n bleser darllen ei adroddiadau cyhoeddedig ar waith yr ysgolion cylchynol.
  • Howell Harris, Trefeca. Mae Archif y Methodistiaid Calfinaidd yn cadw ei ddyddiaduron rhyfeddol. Doedd e ddim yn un hawdd i’w wneud ag ef ond mae’n anodd dychmygu Cymru heb ei ddylanwad.
  • William Williams, Pantycelyn. Cristion arall yr oedd ei ddylanwad ar Gymru yn anfesuradwy, ond trueni nad oes mwy yn troi i ddarllen ei glasuron Theomemphus a Golwg ar deyrnas Crist.
  • Llythyr llawysgrif Ann Griffiths (Llawysgrif LlGC 694D).
  • Lithograff o Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon.
  • Tystysgrif Ysgol Sul
  • Portreadau ffotograffig gan John Thomas, Lerpwl o weinidogion
  • Portread William Roos o’r Parchg Thomas Charles, y Bala
  • Portread o’r Parchg Christmas Evans
  • Paentiad gan Robert Hughes, Uwchlaw’r-ffynnon
  • Gwaith yr arlunydd Methodistaidd Calfinaidd, Hugh Hughes.
  • Cardiau post yn nodi Diwygiad 1904-05
1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>