Drannoeth fy nghyflwyniad i ar Drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol roeddwn i mewn sgwrs arall, am Emynwyr Aberystwyth y tro hwn. Digwyddodd y sgwrs yn Eglwys y Santes Fair a’r un oedd yn traddodi oedd Delyth G Morgans. Ni allem ni fod wedi dod o hyd i neb gwell i wneud y gwaith hwn gan fod Delyth yn arbenigwr yn hanes ein hemynyddiaeth a’n hemyn donau.
Adlewyrchir ei gwybodaeth eang yn ei chyfrol Cydymaith i Ganeuon Ffydd.
Daeth tyrfa dda ynghyd i wrando ar sgwrs Delyth ac roedd hi’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf wrth gyflwyno. Roeddwn i’n edmygu ei harddull yn fawr gan roi geiriau a darluniau ynghyd i gyflwyno ei neges. Wedi’r sgwrs roedd cyfle i bawb gymdeithasu tros baned o de neu goffi.
Roedd y sgwrs yn ffordd o nodi dechrau yr ymgyrch i godi arian ar gyfer cywiro a glanhau organ Eglwys y Santes Fair. Dwi’n siŵr fy mod wedi sôn cyn hyn am yr organ sydd yn yr eglwys Mae’n organ hanesyddol ac o ddiddordeb i’r rhai sydd yn arbenigo ym maes hanes yr offeryn. Yr ydym yn ymwybodol ers rhyw flwyddyn y fod angen gwneud gwneud gwaith arno ac o’r diwedd mae’r amser wedi dod i weithredu. Ein gobaith bellach yw dechrau ar y gwaith ei hun wedi’r Pasg 2009. Ar hyn o bryd amcanir gorffen y gwaith o fewn 6 wythnos, ond does dim gwybod beth wnaiff yr adeiladwr organau ddod o hyd iddo wedi iddo ddatgymalu’r offeryn yn ei grynswth. Dim byd rhy ofnadwy gobeithio.
A diolch yn fawr iawn iti, Delyth.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








A diolch i tithe, Dogfael, ac i bawb a ddaeth i gefnogi. Pob dymuniad da gyda’r gwaith ar yr organ.