Carolau tan Gannwyll Ffagl Gobaith

CanhwyllauNos Fawrth fe fues i mewn gwasanaeth Carolau tan Gannwyll wedi’i drefnu gan Ffagl Gobaith yn Eglwys S Mihangel, Aberystwyth. Roedd yn wasanaeth hyfryd gyda nifer o bobl lleol yn cymryd rhan. Canwyd carolau Cymraeg a Saesneg ac roedd hi’n noson ddwyieithog. Roedd dau gôr yn canu: Côr Ysgol Gymraeg Aberystwyth a Chôr Madrigal Prifysgol Aberystwyth. Cafwyd eitem hefyd gan Seindorf Arian Aberystwyth. Arweiniwyd y canu cynulleidfaol gan Geraint Thomas. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy hudo gan gyfraniad triawd Trefor, Rhiannon ac Eleri. Fe wnaethon nhw ganu dwy garol Gymreig. Roedden nhw’n weddol debyg i’w gilydd (fel mae carolau Cymreig yn dueddol o fod), ond roedd yr ail un a ganwyd ganddynt yn rhyfeddol o gymhleth i’m clust syml i; i ddweud y gwir roeddwn yn rhyfeddu at eu gallu i ganu’r peth o gwbl. Darllenodd Dana Edwards ac Elizabeth Murphy, sylfaenydd Ffagl Gobaith, ddarn yr un. Clowyd y gwasanaeth mewn gweddi gan y Parchg Roger Thomas. Er bod croeso i aros am baned a mins pei wedi’r gwasanaeth rhaid imi gyfaddef imi fynd am adref cyn gynted â phosib.

Trefor, Rhiannon ac Eleri

Rhagor o luniau o’r noson.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Carolau tan Gannwyll Ffagl Gobaith

  • Huw

    Dogfael – oeddet ti wedi cael gwydryn neu ddwy o gluwein cyn cymryd y ffotos yma. Mae nhw’n, erm, sigledig iawn ;-)

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>