Cyfarfod gwahanol iawn ei naws yr wythnos wedyn. Plaid Cymru oedd wedi trefnu unwaith eto, cangen Aberystwyth a Phenparcau y tro hwn. Ond roeddem ni’n cwrdd ym mwyty Ultracomida yn Aberystwyth. Y bwriad oedd ceisio codi arian ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol trwy fwynhau. Ac fe wnes i fwynhau mas draw. Doedd y noson ddim yn un rhad, ond ar ôl y wledd roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cael gwerth fy arian yn llwyr. Tapas i ddechrau – caws, cigoedd oer, corgimychiaid, crocetiau – yna paella cig, a phwdin i gloi. Dim rhyfedd fod y lle yn cael cofnod yn y Good food guide diweddaraf. Dyma’r tro cyntaf i mi fwyta yma gyda’r nos a byddaf yn ceisio galw yn ôl cyn gynted â phosib yn y flwyddyn newydd (os na fydda i wedi gwario gormod dros y Nadolig a’r Calan!).



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael