Hynodion sustem etholiadol y Taleithiau Unedig
Dyma fi’n troi yn ôl at fy hoff bwnc ar hyn o bryd, yr etholiad arlywyddol diweddar yn y Taleithiau Unedig. Mae’r sustem etholiadol yn un ddiddorol. Y nodwedd bwysicaf i’w cofio yw nad yw’r etholiad yn un uniongyrchol. Yn hytrach yr hyn a wneir yw bod pob talaith yn cynnal etholiad er mwyn penderfynu i ba ymgeisydd y bydd cynrychiolydd y daith yn pleidleisio mewn coleg etholiadol. Yn ôl y Cyfansoddiad mae hawl gan bob talaith ddewis y dull o benderfynu hyn drostyn eu hunain. Mae’r rhelyw ohonynt yn dewis rhoi pleidlais pob un o’r cynrychiolwyr i’r ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y dalaith. Golyga hyn bod ymgeisydd sy’n ennill un bleidlais yn fwy na gweddill yr ymgeiswyr mewn talaith yn derbyn yr holl bleidleisiau yn y coleg etholiadol. Does dim angen dweud wrth neb fod hyn yn medru arwain i sefyllfa lle mae’r enillydd yn y coleg etholiadol, a’r arlywydd nesaf, wedi derbyn llai o bleidleisiau poblogaidd na’r un sy’n colli.
Mae pob talaith yn ethol aelodau o’r coleg etholiadol sy’n cyfateb i gyfanswm eu seneddwyr yn y Senedd a’u cynrychiolwyr yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr. Felly mae talaith fel Georgia sydd â 2 seneddydd (fel sydd gan bob talaith) a 13 cynrychiolydd (yn ôl poblogaeth) yn ethol 15 aelod o’r coleg etholiadol. Mae’r ymgeisydd sy’n ennill mwyafrif o’r pleidleisiau yn Georgia yn derbyn pleidlais pob un o’r aelodau hynny. Yn ddiddorol iawn yn achos Georgia, a rhyw 23 o daleithiau eraill does dim rheidrwydd cyfreithiol i’r aelodau hynny ddilyn cyfarwyddyd y bleidlais ac yn y gorffennol mae pethau rhyfedd wedi digwydd.
Ond yr hyn sy’n tynnu fy sylw i yw’r ddwy dalaith nad ydyn nhw’n dilyn y rheol fod un ymgeisydd yn derbyn holl bleidleisiau talaith yn y coleg etholiadol, sef Nebraska a Maine. Nid oes unrhyw elfen o gyfranoliaeth yn unrhyw un o’r taleithiau eraill, ond yn Nebrasaka a Maine mae aelodau’r coleg etholiadol yn cael eu hethol yn wahanol. Yn y ddwy dalaith mae dau aelod y coleg (yn cynrychioli elfen y Senedd) yn cael eu hethol ar bleidlais y dalaith ar y sail fod yr enillydd yn cymryd y ddwy sedd. Mae gweddill yr aelodau yn cael ei hethol ar sail etholaethau Tŷ’r Cynrychiolwyr. Ond er bod Maine wedi mabwysiadu’r sustem hon ers 1972 a Nebraska yn 1992 mae holl aelodau’r coleg etholiadau o’r ddwy dalaith wedi mynd i’r un ymgeisydd bob tro. Ond eleni am y tro cyntaf mae’n edrych yn debyg y bydd un o aelodau y coleg etholiadol o Nebraska yn pleidleisio i Barack Obama, tra bydd y pedwar arall yn pleidleisio i John McCain. Dwi’n gwybod nad yw’n bwysig yn y darlun mawr, ond i’r rhai sy’n ymddiddori yn y pethau hyn mae’n reit gyffrous. Arwydd arall fod pethau wedi newid.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Ie – difyr iawn. Fe allai Omaha neu Maine wedi bod yn allweddol wrth gwrs, am fod sawl model yn gweld y posibliad o etholiad yn cyrraedd 269-269 a byddai un o’r pleidleisiau unigol wedi gallu newid y canlyniad.