Bues i mewn cyfarfod o un o is-bwyllgorau’r Cyngor Tref heno. Roedd yn ofynnol imi fod yno i ddweud y gwir gan taw fi oedd yn cadeirio. Cyfarfod o’r is-bwyllgor Pwrpasau Cyffredinol oedd hwn. Doedd dim rhyw lawer i’w drafod na llawer i’w benderfynu, ond fe lwyddon ni i lenwi awr.
Yr hyn y buom yn ei drafod fwyaf oedd beth oedd y Cyngor Tref yn mynd i’w wneud wedi i swyddfeydd newydd Cyngor Sir Ceredigion gael eu gorffen. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor Sir swyddfeydd yn y dref drwyddi draw. Ond y bwriad yw gwerthu’r rhan fwyaf ohonynt wedi i’r rhan fwyaf o’r staff ail-leoli i Barc-y-llyn. Nid yw’r Cyngor Sir wedi penderfynu beth i’w wneud â Neuadd y Dref eto – mae sôn y bydd y gwasanaeth llyfrgell neu’r archifdy yn mynd yno – ac yno y mae swyddfa’r Cyngor Tref. I’r rhai sy’n hoff o hanes dylid dweud taw’r Cyngor Tref oedd berchen Neuadd y Dref pan oedd Aberystwyth yn fwrdeistref. Mae pethau wedi newid bellach, ond mae rhywun yn dal i hiraethu am gynnal ein cyfarfodydd yno. Erbyn hyn mae cyfarfodydd y cyngor a’i is-bwyllgorau yn digwydd yn Swyddfa’r Sir. Sôn am gymhleth!
‘Ta beth, mae’r holl newidiadau yma yn nhrefniadau’r Cyngor Sir yn Aberystwyth yn mynd i gael effaith ar y Cyngor Tref ac ar bawb arall mae’n debyg. Pan fydd y swyddfeydd wedi symud i Barc-y-llyn ni fydd gan y Cyngor Sir swyddfa gyffredinol ar gyfer ymholiadau yng nghanol y dref. Yn ôl a ddeallaf i bydd yn rhaid i ddinasyddion sydd am wneud busnes gyda’r cyngor ddod o hyd i’w ffordd i lawr i Barc-y-llyn. Efallai y bydd hynny’n hawdd i’r rhai sy’n gyrru, ond fe fydd yn golygu taith arbennig o’r dref i lot o drigolion. Nawr mae’n bosib popo miwn i dalu treth y cyngor pan yn y dref. Cyn bo hir (diwedd 2009) bydd yn rhaid gwneud taith arbennig er mwyn gwneud hynny.
Trafodaeth gychwynnol a gafwyd heno ar beth ddylai’r Cyngor Tref ei wneud pan fydd y trefniadau newydd yn dod i fod. Ymhlith y dewisiadau byddai ceisio parhau yn Neuadd y Dref, chwilio am lefydd eraill ar rent, neu hyd yn oed prynu cartref newydd i ni ein hunain. Mae ‘na rywbeth i’w ddweud dros bob un o’r posibiliadau. Dwi’n siŵr y bydd llawer o drafod cyn ein bod yn dod i yn agos i unrhyw beth sy’n debyg i benderfyniad. Ond dyna yw beth yw bod yn gynghorydd. A does dim yn bod ar drafod os ydyn ni’n llwyddo i benderfynu’n ddoeth ar ddiwedd y dydd.



(2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Diolch am dy ymateb.
Os wyt ti am wybod beth yw ‘dim’ cer i wefan y Cyngor fan hyn . . .
http://www.aberystwyth.gov.uk/page8.html
i chwilio o dan ‘Polisiau’ – ‘dyna yw dim onid e.’
Nawr dy fod yn gynghorydd ac yn flogiwr efallai y cawn ni wybod o bryd i’w gilydd ar beth mae’r Cyngor Tref yn gwario’n pres. Efallai y gwnai newid fy meddwl wedyn.
Diolch am dy ymateb Ffarwel. Mae croeso iti fynegi dy farn; ond mae gosodiad mor foel o ddi-dystiolaeth yn annog rhywun i ofyn y cwestiwn beth yw diffiniad rhywun o ‘ddim’. Mae pawb yn gwybod fod y pwerau sydd gan gyngor tref yn weddol gyfyngedig, ac yn weddol agos i ‘ddim’ o’u cymharu â phwerau Llywodraeth Cymru hyd yn oed; er fel yr wyt ti’n awgrymu Ffarwel mae gan y Cyngor Tref mwy o bwerau i godi trethi! Ond os taw ‘dim’ y cyfanswm ein cyflawniad pam yn y byd mawr fod pobol Aberystwyth yn dal i gysylltu gyda’r cynghorwyr yn gofyn iddyn nhw wneud y peth hyn neu’r peth arall neu gytuno gyda’r gosodiad hyn neu’r gosodiad arall. Yn dy farn di mae’n rhaid bod hynny’n golygu ‘dim’, ond tra bo rhai yn gweld rhyw ddefnydd i gynghorwyr neu gyngor dwi’n credu y dylent gael cartref o ryw fath. Ond diolch am y sylw, Ffarwel.
“. . . . beth ddylai’r Cyngor Tref ei wneud pan fydd y trefniadau newydd yn dod i fod.”
Dyma un ateb – diflannu dros y gorwel.
Trigolion Aberystwyth sy’n talu am gynnal y Cyngor Tref ond dyw’r Cyngor Tref yn cyflawni dim.