Fe ddihunes i am ryw 3.30am a dwi wedi methu mynd ‘nôl i gysgu ers hynny. Y rheswm fy mod wedi codi yw i mi ddarllen cyngor rhywbryd am gysgu a oedd yn awgrymu os oedd dyn yn dihuno yng nghanol y nos ac yn methu mynd yn ôl i gysgu o fewn rhyw hanner awr taw’r beth gorau oedd codi a gwneud rhywbeth. Felly dyma fi yn ysgrifennu cofnod i’r blog gan obeithio y bydd cwsg yn fy ngoddiweddyd cyn bo hir, cyn imi orffen y cofnod efallai.
Roedd ‘na stori ddiddorol ar flog gwleidyddiaeth New York Times heddiw am beth yw newyddion. Roedd papur newydd yn Texas wedi penderfynu peidio â rhoi ethol Barack Obama yn arlywydd fel y prif stori. Yn hytrach fe wnaeth stori am etholiad lleol y tudalen blaen. Fe wnaeth rhai gwyno am hyn, ac fe aeth eraill mor bell â phrotestio y tu fas i swyddfeydd y papur newydd. Ymateb y cyhoeddwr oedd: “We run a newspaper, not a memory book service. We covered the local commissioner’s race. We thought that was more important.” Wrth gwrs ar ddydd yr etholiad ei hun roedd yr un papur newydd wedi cyhoeddi stori am John McCain ar y tudalen blaen!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael