Archifdy Cenedlaethol i Gymru?

Archifdy Cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol

Nid yw sefydliadau diwylliannol yn cael lle mawr mewn trafodaethau gwleidyddol strategol, ond dro ar ôl tro mewn hanes mae’r sefydliadau yma yn cael eu hunain yng nghanol brwydrau geiriol a milwrol. Er nad yw’n ymddangos fel ‘ny bob amser mae sefydlu llyfrgell, amgueddfa ac archifdy cenedlaethol yn ganolog ym mywyd cenedl neu wladwriaeth. Dyma’r sefydliadau sydd yn galluogi pobl i adrodd ei hanes. Nid yw’n syndod felly fod sefydliadau o’r fath yn dod yn dargedau mewn rhyfeloedd – o losgi llyfrgell Prifysgol Gatholig Leuven yn 1914 hyd at yr ymosodiadau ar lyfrgell ac amgueddfa genedlaethol Bosnia-Hertsogofina ddechrau’r 1990au a’r rheibio ar sefydliadau diwylliannol Irác yn 2000au. Efallai nad ydyn ni yng Nghymru yn sylweddoli cymaint o beth oedd hi i sefydlu llyfrgell ac amgueddau genedlaethol gan mlynedd yn ôl. Mae’n bosib hefyd nad oedd ei sefydlwyr yn sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd hynny, er fy mod wrth ddysgu mwy am yr ymgyrchoedd yn edmygu fwy fwy eu gweledigaeth.

Yr hyn sydd wedi gwneud imi fyfyrio ar y pethau hyn yw erthygl sylweddol arall gan Robert Fisk yn yr Independent, Arabs have to rely on Britain and Israel for their history. Byrdwn ei neges yw pa mor anodd yw hi i Arabiaid, gan gynnwys Palestiniaid, adrodd ei hanes diweddar gan nad oes unrhyw wlad yn y dwyrain canol sydd ag archifdy cenedlaethol sy’n cynnig i’w dinasyddion fynediad i’w harchifau heblaw am Israel. Os am chwilio eu hanes mae’n rhaid i bobl Palestina droi at ddaliadau Archifdy Gwladol y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y cyfnod tyngedfennol yn ei hanes yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a arweiniodd at sefydlu gwladwriaeth Israel a’r sefyllfa bresennol.

Er bod gan Gymru ei llyfrgell a’i hamgueddfa genedlaethol nid oes ganddi ei harchifdy. Y rheswm hanesyddol am hynny oedd am nad oedd ganddi lywodraeth ei hun. Bellach mae ganddi lywodraeth ond mae ei chofnodion llywodraethol yn dal i adael Cymru i Archifdy Cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol ar gyrion Llundain. Nawr mae’n wir nad yw’r daith o Gaergybi neu Gaeriw i Lundain i’w chymharu â’r daith o Ramallah, ond fe fyddai’n eironig iawn petai’n rhaid i haneswyr Cymru yn yr oes wedi datganoli adael eu gwlad er mwyn adrodd ei hanes yn iawn. Tybed nad yw hi’n amser inni feddwl am ymgyrch o blaid cadw ein cofnodion llywodraethol yng Nghymru? Ond diwedd y gân fydd y geiniog ac yn yr hinsawdd economaidd presennol ni fydd hi’n hawdd iawn nac yn boblogaidd iawn hyd yn oed meddwl am sefydlu sefydliad cenedlaethol o’r fath. Ond rhyw ddydd bydd yn rhaid gwneud.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>