Dwi’n siŵr fod pawb wedi dyfalu erbyn hyn fy mod yn obsesd gyda buddugoliaeth Barack Obama, ond dwi’n methu’n deg â rhoi’r gorau i ryfeddu at yr hyn sydd wedi digwydd. Mae’n siŵr y daw’r siom a’r dadrithio ond tan yr inawgareiddiad 20 Ionawr 2009 mae dyn yn rhydd i freuddwydio. Ac wrth gwrs dwi’n sylweddoli fy mod yn gwneud rhywbeth peryglus iawn, sef cynnig barn ar wleidyddiaeth mewn gwlad arall. Mae’n beth digon dadleugar i fentro barn ar beth sy’n digwydd yn dy wlad dy hun, ond mae sôn am beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill yn medru ymddangos yn rhyfygus dros ben. (Wrth gwrs mae rhyfyg yn rhan annatod o’r profiad o flogio, a dwi’n gobeithio hefyd y bydd darllenwyr Blog Dogfael yn y Taleithiau Unedig yn fodlon goddef hyn am ychydig.) Mae ‘na erthygl arall ddiddorol yn New York Times am beth wnaeth pobol ddweud am Obama cyn yr etholiad a beth maen nhw wedi’i ddweud wedyn, Stinging about Obama? Never mind. Rydyn ni i gyd wedi’i wneud e, ond weithiau mae mwy na wythnos neu ddwy rhwng y ‘newid’ meddwl. Dyma hanes y Gynrychiolyddes Michele Bachmann o’r erthygl.
Just a few weeks ago, at the height of the campaign, Representative Michele Bachmann of Minnesota told Chris Matthews of MSNBC that, when it came to Mr. Obama, “I’m very concerned that he may have anti-American views.”
But there she was on Wednesday, after narrowly escaping defeat because of those comments, saying she was “extremely grateful that we have an African-American who has won this year.” Ms. Bachmann, a Republican, called Mr. Obama’s victory, which included her state, “a tremendous signal we sent.”
Wrth gwrs dylwn i ddim bod yn rhy llawdrwm ar y fath hyn o beth oherwydd dyna yw un o gyfrinachau bod yn wleidydd llwyddiannus sef bod yn barod i newid meddwl pan mae galw i wneud hynny. Dwi’n gwybod fy mod i wedi newid fy meddwl a fy syniadau am lawer o bethau dros y blynyddoedd ond ni mor gyflym â Michele Bachmann.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael