Dagrau yn Chicago

Jesse Jackson yn crïo

Dwi’n hen ddyn sentimental iawn. Ac felly diwrnod wedi buddugoliaeth Barack Obama yn etholiadau arlywyddol y Taleithiau Unedig un llun sy’n dal yn fy meddwl i, sef hwnnw o’r Parchg Jesse Jackson yn y dorf a ddaeth ynghyd yn Chicago er mwyn cyfarch yr arlywydd newydd. Nid ei bod hi’n rhyfedd fod Jackson yn rhan o’r dorf honno; bu ef unwaith yn ymgiprys am enwebiad y blaid Ddemocrataidd. Ond yr hyn am Jesse Jackson oedd bod dagrau yn powlio i lawr ei ruddiau. Nid dim ond digwyddiad a oedd yn rhan o broses wleidyddol arferol oedd ethol Obama i Jackson, ac felly i lawer iawn o’i gefnogwyr. Fel Cymro cenedlaetholgar dwi’n medru uniaethu yn iawn gyda gwleidyddiaeth sy’n mynd y tu hwn i wleidyddiaeth fel un Obama yn achos Jesse Jackson – pan fod ennill neu golli yn golygu llawer mwy na dim ond fater o bleidleisiau. Mae gobaith yn rhywbeth llawer dyfnach na gwleidyddiaeth, ac efallai bod hynny yn rheswm dros beidio â chymysgu gwleidyddiaeth a gobaith gan nad yw ond yn mynd i arwain at siom yn y diwedd. Dwi’n gobeithio fy mod i’n anghywir unwaith eto.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>