Gwely sy’n ennill ym Mhlas-yn-Dogfael!

Dwi’n dal i glywed y gair ‘hanesyddol’ yn cael ei ddefnyddio gan newyddiadurwr ar ôl newyddiadurwr ar BBC, CNN, Sky News ac EuroNews. Mae meddwl am fynd i’r gweld wedyn yn teimlo’n benderfyniad bach yn rhyfedd. Onid yw rhywun am fod ar ddihun i fod yn llygad-dyst i hanes? Wel, ydy mae dyn am fod yn llygad-dyst lle mae hynny’n ymarferol. Ond ar y llaw arall mae’n rhaid imi gael fy nghwsg os ydw i’n mynd i roi o fy ngorau yn y gwaith yfory. Felly dwi’n credu taw’r ffordd ganol fydd mynd i’r gwely yn magu fy nghyfrifiadur a gosod y ffôn symudol i fy nihuno am ryw 5.00am. Wedyn os oes ‘na ganlyniad hanesyddol fe alla i ddihuno ac esgus fy mod wedi bod yn rhan o’r newid… ac os nad oes yna fe alla i fynd yn ôl i gysgu am ryw awr neu ddwy arall. Pob hwyl i Morgan wrth iddo flogio’n fyw trwy’r nos ar safle Golwg!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Gwely sy’n ennill ym Mhlas-yn-Dogfael!

  • [...] am ddisgwyliadau uchel, mae Dogfael wedi dweud ar ei flog ei fod o’n disgwyl i mi aros i fyny drwy’r nos! Gobeithio na fydd [...]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>