Liesbeth yn Aberystwyth (4)

Martin DavisFe wnes i gymryd prynhawn ddydd Gwener fel gwyliau er mwyn cyfarfod gyda Liesbeth ac fe fuon ni’n siarad am bob mathau o bethau trwy’r prynhawn. Aeth hi i siopa am ychydig ac wedyn fe es i ddangos Eglwys y Santes Fair iddi hi. Roedd yn rhaid imi geisio esbonio iddi hanes crefydd yng Nghymru, ac wrth gwrs mae’n wahanol iawn i hanes crefyddol Fflandrys. Bu Fflandrys yn ardal a oedd bron â bod yn gyfan gwbl Babyddol tan yr ugeinfed ganrif, er adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd rhai o ddinasoedd Fflandrys, yn arbennig Antwerpen, yn gartref i ddiwygwyr crefyddol. Daeth hynny i gyd i ben gyda’r adwaith yn erbyn gwrthryfel yr isel diroedd a sefydlu Holand annibynnol yn y gogledd pan erlidiwyd meddylwyr Fflandrys gyda’r mwyafrif llethol yn gadael yr isel diroedd Sbaenaidd am yr Iseldrioedd Sbaenaidd. Dyma’r adeg y ffodd rhai ffoaduriaid i Norwich a sefydlu’r gymuned Iseldireg ei hiaith yno.

Wedi inni dreulio amser yn Eglwys y Santes Fair fe aethon ni i’r Llew Du i gael rhywbeth i’w yfed ac i gyfarfod gydag RO unwaith eto. Doedd gen i ddim rhyw lawer wedi’i drefnu ar gyfer y nos mewn gwirionedd, ond mewn ennyd ysbrydoledig dyma RO yn cynnig inni fynd i noson lansio nofel newydd Martin Davis yn Nhal-y-bont. Roeddwn i wrth fy modd yn cael cynnig, gan fod y grŵp gwych hwnnw, Brigyn, yn rhan o’r noson lansio.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>