Liesbeth yn Aberystwyth (3)

Roeddwn i wedi trefnu diwrnod o wyliau ar gyfer dydd Iau ac fe aeth y ddau ohonom i eglwys Llandadarn yn y bore. Doeddwn i ddim wedi bod yn yr arddangosfa yn yr eglwys ers sawl blwyddyn a doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cymaint i’w weld a’i ddarllen yno. Mae gan Liesbeth ddiddordeb yn nhipyn o bopeth, ond fel gwyddonydd, rhaid dweud fod syniad y gynghanedd wedi ei chyffroi yn lân ac fe dreulion ni dipyn o amser yn dadansoddi’r gynghanedd yng nghywydd Dafydd ap Gwilym i Ferched Llanbadarn sydd yn rhan o’r arddangosfa.

Liesbeth yn Eglwys Llanbadarn

Yn y prynhawn fe aeth Liesbeth i ymweld â Chyngor Llyfrau Cymru yng Nghastell Brychan ac â swyddfa newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Cambria.

Roedd ein noson wedi ei threfnu ers sawl wythnos, oherwydd yr oeddwn wedi prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd y grŵp Gwyddelig The Wolfe Tones yn y Clwb pêl-droed. Roedd hi’n gyfle gwych i Liesbeth brofi afiaith y bois o’r ynys werdd. Noson hwyliog dros ben.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>