Liesbeth yn Aberystwyth (1)

Mae wedi bod yn wythnos arbennig iawn oherwydd fod Liesbeth, fy ffrind o Fflandrys, wedi bod yn aros yn Aberystwyth ar ei gwyliau ers dydd Sul gan adael fore heddiw ar y trên i Gaerdydd. Fe wnes i gyfarfod gyda hi ryw dair blynedd yn ôl pan fues i am wyliau ym Mrwsel am dair wythnos dros y Nadolig. Ers hynny rydym wedi bod yn cysylltu gyda’n gilydd yn gyson. Dwi wedi bod ar wyliau ym Mrwsel a Fflandrys rhyw bedair neu bum gwaith ac fe ddaeth hi a’i chwaer a dau ffrind i’r Eisteddfod yn yr Wyddgrug llynedd.

Maer Aberystwyth, y Cyng Sue Jones-Davies a Liesbeth

Fel cenedlaetholwraig Fflandrysaidd mae ganddi ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn gyffredinol. Dwi’n falch o ddweud inni fedru cyfuno’r ddau beth a mwy yn ystod ei hymweliad. Nos Lun fe wnaeth rywbeth nad yw mwyafrif llethol trigolion Aberystwyth wedi’i wneud, sef dod i weld un o eisteddiadau Cyngor Tref Aberystwyth. Ac wedi’r cyfarfod fe gafodd gyfle i gwrdd a siarad gyda maer Aberystwyth, sef y Cyng. Sue Jones-Davies. Wedyn fe aeth Liesbeth a minnau i gyfarfod gydag RO am sgwrs a diod.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>