Roedd noson lansio nofel Martin Davis, Tonnau Tryweryn, yn ddigwyddiad dymunol iawn. Rydw i’n adnabod Martin ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain. Fe wnes i gyfarfod gydag e pan ddes i’r coleg yn Aberystwyth ac mae’r ddau ohonon ni wedi bod o gwmpas ers hynny ac mae’n llwybrau yn croesi yn achlysurol.
Dywedodd Martin yn y lansiad ei fod wedi cyhoeddi wyth o lyfrau gyda’r Lolfa a dwi wedi darllen dau ohonynt – Brân ar y crud ac Os dianc rhai. Fe wnes i fwynhau’r cyntaf, ac er fy mod yn edmygu bwriad ac uchelgais yr ail rhaid dweud na lwyddodd i gyflawni yr hyn yr oeddwn wedi’i obeithio. Roedd honno yn nofel yn cymryd digwyddiadau yn y 1930au a’r 1940au yn gefndir iddi ac ac yn Tonnau Tryweryn mae’r awdur yn edrych yn ôl i digwyddiadau yn hanes gwleidyddol a chymdeithasol Cymru fel cefndir. Yn ddiddorol wrth sgwrsio gydag Alun Jones, un o olygyddion y Lolfa, dywedodd Martin fod y profiad o ysgrifennu Os dianc rhai wedi’i wneud yn betrusgar am ysgrifennu nofel hanesyddol arall. Ond mae’n amlwg iddo oresgyn hynny.
Dyma beth sydd gan ddatganiad i’r wasg gan y cyhoeddwr i’w ddweud am Tonnau Tryweryn:
Nofel yw hi sy’n dilyn hynt a helynt tri chymeriad tra gwahanol i’w gilydd, dros gyfnod o hanner canrif, wrth i’w gwleidyddiaeth a digwyddiadau’u cyfnod newid cwrs eu bywydau fesul un, a dyfroedd Tryweryn yn gefnlen cyson i’r cwbwl.
Cawn hanes Mefina, merch ifanc a’i blys ar fod yn nyrs, ei chenedlaetholwr o gariad, Emlyn, a’r straen a roddir ar eu perthynas wrth i Mefina ddewis mynd i astudio i Lerpwl. Wrth i’r misoedd droi’n flynyddoedd, a Mefina wedi dod o hyd i gariad newydd, mae Emlyn yn chwerwi fwyfwy tuag at Lerpwl, a phopeth y mae’r ddinas honno yn ei gynrychioli. Ymuna â’r ymgyrchoedd yn erbyn boddi Capel Celyn, a chanfod ei hun ymhlith y rhai sydd yn barod i weithredu… ond mae cynlluniau Lerpwl yn tynnu trasiedi sydyn i’w fywyd mewn modd na ddychmygodd byth. Pan ddychwela Mefina i’r ardal rhai blynyddoedd yn ddiweddarach gyda’i gŵr, y Gwyddel Gweriniaethol Des O’Farell, sy’n derbyn swydd fel warden yng ngwaith Tryweryn, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth. Ac wrth i ddaliadau gwleidyddol y cymeriadau gryfhau, felly hefyd y mae’r dynfa tuag at weithredu, a thrais.
 chymeriadau mor fyw â’r rhain, wedi eu selio mewn hanes cymharol ddiweddar, rhaid gofyn y cwestiwn a ydyn nhw’n deillio o bobol o gig a gwaed. Ond yn ôl yr awdur Martin Davis, “Dychymyg pur ydyn nhw, pob un”. Er hynny, mae’n cyfaddef iddo wneud gwaith ymchwil trwyadl wrth baratoi, ac ymgolli yn yr hanes: “Dwi wedi astudio Hanes Cymru, dyna oedd fy ngradd a ’ngradd bellach, felly mae gen i ddiddordeb byw yn y peth. Yn achos Tonnau Tryweryn, cael fy mherswadio i’w sgwennu y gwnes i, ac roedd hynny’n ychydig o her. Weithia’, os ydi rhywun hefo gormod o ddiddordeb yn y testun, mae o’n gallu llesteirio rhywun… er, erbyn y diwadd o’n i wedi ymgolli’n llwyr!”
Yn fuan yn ei waith ymchwil daeth i sylweddoli bod ardal Cwm Tryweryn wedi chwarae rhan mewn sawl ymgyrch wleidyddol, ac nid dim ond yr amlwg: “’Nath o ’nharo i bod ’na dri pheth â rhyw fath o gysylltiad rhyngddyn nhw ag ardal Tryweryn – sef ymgyrchoedd Tryweryn ei hun, hanes Frongoch, lle ganed yr IRA i bob pwrpas, a’r ffaith bod hunanfomwyr Llundain wedi dewis canolfan ganŵio ger yr Afon Tryweryn i gael rhyw fath o gyfarfod bondio cyn cyflawni’u hymosodiad nhw. O weld y tri pheth yna, o’n i’n meddwl, wel, ma’ ’na stori yn rwla,” eglura.
Teimlodd nad oedd modd creu cysylltiad uniongyrchol, ond roedd rhywbeth yn hynny wedi cydio: “O’n i ddim isio sgwennu nofel ddogfennol hanesyddol, fel y cyfryw”, meddai. Felly penderfynodd wyro oddi wrth y digwyddiadau’r ydym ni’n gyfarwydd â nhw, gan adael y rheiny’n ddim ond cefndir i’r nofel: “Pan fydda’ i’n sgwennu, dwi’n licio meddwl am y petha lleia’ tebygol, yn hytrach na dilyn rhyw drywydd amlwg,” esbonia.
Gadawodd felly i’r cymeriadau arwain, a’u stori nhw sydd yn y nofel, ac nid ffeithiau moel: “Mewn gwirionedd, mae hi’n nofel am y ffordd y gwnaeth y digwyddiadau yma effeithio ar bobol a’u perthynas hefo’i gilydd. Yn aml, mae’r sgil effeithia’ yn gallu gneud llanast o fywyda’ pobol.”
Mae’r bobol, neu’r cymeriadau, yma yn ein tywys drwy flynyddoedd cythryblus yn ein hanes, wrth i’w bywydau gael eu dryllio gan orthrymau y tu hwnt i’w rheolaeth, a thynnu’r darllenydd i’w byd nhw. Cawn gipolwg ar fywyd pob dydd trigolion ardal Tryweryn yn ystod cyfnod du iawn yn eu hanes, a hwnnw’n ddarlun mor fyw y mae’n peri i ni fynd o dan groen eu hofnau, eu dicter, a’u cymhellion.
Dwi heb ddarllen y nofel hyd yn hyn – dwi wedi’i dechrau. Ond mae prif ddarllenydd cyhoeddus Cymru, DML, wedi ei gorffen ac mae wedi datgan ei bod hi’n nofel dda iawn. Os yw DML yn dweud hynny byddwn i ddim yn dadlau.
Roedd y lansiad wedi’i gyfuno gyda pherfformiad gan y grŵp Brigyn. Rwyf wedi bod yn hoff iawn o’i gwaith ers imi eu clywed am y tro cyntaf ar CD, ond dyma’r tro cyntaf imi eu clywed yn canu’n fyw ac ni chefais fy siomi. Mae eu caneuon yn dwyllodrus o syml ond wrth wrando arnyn nhw roedd hi’n amlwg fod llawer iawn yn digwydd yn eu caneuon. Dau frawd sydd yn Brigyn, sef Ynyr ac Eurig. Fel mae’n digwydd mae ganddyn nhw frawd arall sy’n golygu Y Llan, papur newyddion Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru. I wrando ar rai o’u caneuon mae’n werth ymweld â’u tudalen MySpace neu eu gwefan.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Roedd sawl un wrthi’n tynnu lluniau ac rydym wedi cael sawl un sy’n ddigon del i anfon at Mam – ambell ffoto gen ti yn eu plith. Yn sicr dw i’n teimlo’n hy^n os nad yn hen, y dyddiau hyn ond dw i’n eithaf hoffi’r teimlad. Ymlaen i’r 30 mlynedd nesa’!
Hwyl am y tro Martin
Diolch am yr ymateb, Martin. Dwi’n gobeithio hefyd fod yr adroddiad wedi cyfleu cymaint wnes i fwynhau. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i fynd mewn i’r nofel go iawn gan fod pawb dwi’n siarad gyda nhw yn canmol yn hael. Roeddwn i ychydig yn siomedig gyda’r lluniau – roedd y lle yn rhy llawn i fedru tynnu rhai dechau. Roeddwn i’n sylwi fod un neu ddau arall yn tynnu lluniau hefyd; roedd hi’n ymddangos i mi fod gwell camerâu gyda nhw na fy un i. Mae’r amser wedi hedfan ond rhyw fodd neu’i gilydd dwi’n dal i deimlo’n weddol ifanc y tu mewn er yn heneiddio ac yn dadfeilio ar y tu fas.
Diolch am yr adroddiad a’r lluniau hyfryd. (Roedd Siân yn ddiolchgar oherwydd iddi anghofio’i chamera!) 30 mlynedd! Pwy fasa’n meddwl?!