Newydd ddarllen cofnod blog hynod ddiddorol gan blogMenai ar David Davies, Hunger a Rod Richards. Fe glywais i y stori fore ddoe ar newyddion BBC Radio Cymru fod David Davies AS yn beirniadu’r ffaith fod ffilm Steve McQueen am streic newyn Bobby Sands, Hunger, wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Fe wnes i synnu at y ffaith fod y BBC yn rhoi sylw i sylwadau cwbl ffuantus ac amlwg ceisio-sylw David Davies yn y lle cyntaf. Wedi darllen beth sydd gan blogMenai i’w ddweud dwi’n teimlo’n fwy crac byth am hynny. Dwi ddim am gicio’r BBC tra eu bod nhw ar lawr ond dwi’n credu y dylai sylwadau gan David Davies gan eu trin gydag ychydig o ofal ac ysbryd mwy beirniadol nag y maen nhw. Mae’r sylw mae e wedi’i gael i’w fudiad dau-ddyn yn erbyn cynyddu pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol yn esiampl debyg o geisio-sylw ac o ddiffyg crebwyll beirniadol ar ran y cyfryngau.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Yn gwmws. Dw i’n gweld beth sy ‘da ti am eu cicio pan maen nhw i lawr, ond weithiau mae angen cic yn y pen-ôl er mwyn ail-ffeindio dy draed, ond oes?