Fy marn am Brand a Ross

Mae’n amlwg fod pawb yn mynegi eu barn am y darlledwyr a’r diddanwyr Russell Brand a Jonathan Ross yn dilyn eu ffopa amlwg ar BBC Radio 2 yn ddiweddar. Felly dwi’n teimlo ei bod hi’n rhaid i mi ymuno yn y sbort hefyd. Neu’n hytrach y diffyg sbort. Dwi’n ofni fy mod i’n mynd i swnio fel un o’r bobl ddiflasaf a mwyaf di-hiwmor ond dwi’n methu’n deg â gweld fod yr hyn a wnaed gan y ddau yn ddwl neu’n glyfar. Dwi ddim yn gwybod llawer am Russell Brand (heblaw ei fod wedi ysgrifennu llyfr gyda theitl dwl sydd wedi gwerthu fel slecs) ond does gen i ddim llawer o amynedd gyda Jonathan Ross o gwbl.

Dwi wastad wedi teimlo fod diddanwch sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd sy’n ymwneud â phobl go iawn braidd yn amheus – rhaid i mi gyfaddef fy mod yn credu fod rhaglenni a ffilmiau Borat, er mor ddifyr, yn gwneud imi ymestyn am fy sgidiau dringo er mwyn anelu am y tir uchel moesol. Dwi’n gwybod pa mor hawdd yw hi i syrthio i’r fagl o ddweud pethau dwl (fy mai fy hun yw hynny, ond un fel ‘na ydw) ond byddai meddwl y byddai rhywun yn defnyddio hynny er mwyn diddanu cynulleidfa yn fy llenwi â gofid.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Fy marn am Brand a Ross

  • Mmm, dw i’n caru arogl schadenfreude yn y bore. ;-)

    Mae “teitl dwl” llyfr Brand yn dyfyniad o A Clockwork Orange, gyda llaw. Dyw hynny ddim yn meddwl nid yw’n ddwl, ond o leia mae rhywfaint o feddwl wedi mynd i mewn i’r dewis. Mae’n symbol reit handi o broblem fwya Brand, sef ei fod e’n rhy glyfar i’w les i hunan.

    Mae’n anodd cydymdeimlo â’r ddau, sy wedi ymddwyn fel bechgyn ysgol drwg, ond mae’r gor-ymateb i hwn tu hwnt i reswm.

    O, wel. Bydd gwres Andrew Sachs yn gallu lansio gyrfa selebtasig ar gefn ei phoen, felly bydd rhyw dda yn dod o’r peth.

  • Diolch am y sylwadau Nic. Fe wnes i eu hysgrifennu fore ddoe ond anghofio eu postio cyn mynd i’r gwaith. Dwi’n dweud hynny er mwyn ceisio cyfiawnhau fy hun. Rhaid cyfaddef nad ydw i’n gwybod y nesa peth i ddim am Russell Brand, ac mae hynny’n amlwg – ac er fy mod wedi darllen A clockwork orange flynyddoedd maith yn ôl bellach doedd y peth ddim wedi taro tant gyda fi – felly diolch am ddweud wrtha i. Dwi’n cytuno hefyd fod yr ymateb wedi mynd dros ben llestri, ond does gen i ddim amynedd gyda’r fath o hiwmor sy’n defnyddio pobol ‘gyffredin’ fel props yn eu hiwmor; dim mwy nag oes gen i gydymdeimlad gyda’r tabloids sy’n defnyddio pobol gyffredin yn yr un ffordd yn gywir. Dwi’n chwerthin ar beth o’r hiwmor, ond dwi ddim yn credu ei bod yn iawn gwneud y fath hynny o hiwmor. Ni ddylai ennyn chwerthin fod yr unig beth sy’n gyrru neb, weithiau mae’n rhaid ystyried moesoldeb yr hyn sy’n cael ei ddweud a’i wneud. Nid yw ymateb y BBC ei hunain wedi bod gyda’r mwyaf clyfar chwaith!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>