Sylw am ddiffyg gwaith Mark Williams AS mewn erthygl yn y Daily Mail

Rhaid imi ddechrau’r cofnod hon trwy wadu yn gyfan gwbl fy mod yn prynu neu’n darllen y Daily Mail yn gyson. I ddweud y gwir byddaf yn cerdded o’r tu arall heibio i unrhyw un fydda i yn ei ddarllen os yw hynny’n bosib. Ond heddiw dywedodd rhywun wrtha i fod ‘na erthygl ddiddorol yn y papur. Erthygl gan Quentin Letts yw hon ac mae yntau gyda’r mwyaf asgell dde o golofnwyr y papur. Mewn erthygl am aelodau seneddol anweledig – hynny yw aelodau seneddol sydd ddim yn gwneud llawer o ddim byd yn y senedd – fe sylwodd ar diffyg ein haelod seneddol Dem Rhydd Mark Williams. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud amdano.

On the LibDem benches, meanwhile, we are assured that one Mark Williams sits for the electors of Ceredigion (Cardiganshire in old money). Does he? Could have fooled me.

What makes this all the worse is that the alleged Mr Williams – who may well be Inspector Clouseau, for all we know – won his seat at the last general election by ousting Plaid Cymru’s Simon Thomas, an outstanding parliamentarian.

Yr hyn sy’n tynnu ychydig oddi ar sylwadau Mr Letts yw ei fod yn dewis cyfuno hynny trwy ddishmoli gweithwyr gwybodaeth proffesiynol, sef llyfrgellwyr! Teitl ei erthygl yw Would life as a librarian not  better suit these invisible MPs? Trueni am hynny, Quentin, ond diolch am dynnu sylw at ddiffygion fy aelod seneddol.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Sylw am ddiffyg gwaith Mark Williams AS mewn erthygl yn y Daily Mail

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>