Roedd dydd Sul yn ddiwrnod arbennig yn Aberystwyth, sef Sul y Maer. Fel arfer bydd hyn yn digwydd fis Mai neu Fehefin, ond oherwydd ‘amgylchiadau’ roedd yn rhaid i’r dathliad gael ei ganslo. Yn y diwedd fe wnaeth y Cyng Sue Jones-Davies gael ei dewis i fod yn faer Aberystwyth am y flwyddyn 2008-09 ac felly cynhaliwyd y seremonïau sy’n gysylltiedig gyda chreu’r maer yn ddiweddarach na’r arfer.
Fore Sul roedd dwy seremoni yn digwydd. Yn gyntaf roedd gorymdaith ddinesig o Neuadd y Dref o gwmpas prif strydoedd Aberystwyth wedi’i harwain gan y Seindorf Arian ac yn cynnwys y maer, cynghorwyr a chynrychiolwyr o fudiadau a chymdeithasau’r dref.
Yna yn ail, yn dilyn yr orymdaith cynhaliwyd gwasanaeth byr i nodi fod y Cyng Sue Jones-Davies wedi derbyn y faeroliaeth. Cefais i’r fraint o arwain y gwasanaeth byr hwnnw a dweud gair. Cymerodd nifer o bobl eraill ran yn y gwasanaeth: darllenodd Rhian Mari Owen ddarn o’r ysgrythur, cafwyd datganiad ar y ffliwt gan Annie Morgan Jones, darllenodd Sue ei hun ddarn, ac fe ganodd Cantorion Aberystwyth. Aeth popeth yn iawn ac roedd yr holl beth yn deilwng iawn o’r achlysur.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael