Hawl i’r Gymraeg
Ddydd Sadwrn roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei chyfarfod cyffredinol blynyddol. Fe es i’r cyfarfod agored yn y prynhawn; cyfarfod a oedd yn cael yn ei alw’n rali, ond a oedd mewn gwirionedd yn gyfle i wrando ar ddau siaradwr gwybodus iawn ym myd hawliau ieithyddol. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gadeirydd y Gymdeithas, y Prifardd Hywel Griffiths. Cyflwynodd yn gyntaf Elin Haf Gruffudd Jones o sefydliad Mercator a siaradodd yn huawdl am ddatblygiad deddfau iaith yng Ngwlad y Basg gyda sylw arbennig i’r ymgais i gynnwys y sector preifat o fewn i’w deddfwriaeth iaith. Wedyn fe siaradodd Gwion Lewis. Mae yntau’n fargyfreithiwr ac yn awdur cyfrol ar hawliau ieithyddol, Hawl i’r Gymraeg. Ei bwyslais ef oedd y ddadl hawliau dynol dros roi hawliau ieithyddol i siaradwr y Gymraeg ac yn arbennig yr apêl at urddas yr unigolyn sy’n deillio o barchu iaith fel rhan o hunaniaeth.
Roedd yn gyfarfod da iawn ac yn glod i fudiad sydd yn ddeugain mlwydd oed ei fod yn dal i fod ar flaen y gad wrth ymdrin â materion yn ymwneud â’r Gymraeg yng Nghymru. Roedd un peth yn ddiddorol, sef pwyslais Gwion Lewis ar yr hyn sy’n “rhesymol”. Dwi’n cofio taw’r ddadl fawr ynglŷn â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd y cymal oedd yn dweud taw pan roedd hi’n rhesymol yr oedd y Gymraeg i’w thrin yn gyfartal gyda’r Saesneg. Efallai fod pethau wedi newid bellach.
Rhagor o luniau o gyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael