Gofwy archddiacon Ceredigion, 2008

Dr WD yn darllen y llithNos Lun diwethaf fe ddaeth eglwyswyr Ceredigion at ei gilydd yn Eglwys S Mihangel ym mhlwyf Aberystwyth ar gyfer y gofwy’r archddiacon. Mae archddiaconiaeth Ceredigion yn ymestyn o Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro hyd at ogledd Ceredigion. Mae’r gofwy yn adeg pan fydd wardeniaid newydd yn gwneud y datganiadau angenrheidiol ar gyfer cymryd eu swyddi ac mae clerigwyr a darllenwyr lleyg yn gorfod ateb y gofrestr. Felly roeddwn i yno ar ddau gyfrif – fel darllenydd lleyg a warden. Roedd y noson yn un arbennig hefyd am fod Archddiacon Ceredigion, yr Hybarch Andy John, wedi’i ethol yn esgob Bangor ac felly fe fydd yn gadael ei swydd bresennol ar ddiwedd y flwyddyn i wneud ei waith newydd. Wrth fynd fe draddododd siars llawn her inni lynu wrth yr efengyl a’n gobaith fel Cristnogion yn wyneb yr holl anobaith o’n cwmpas. Dr WD, fy nghyd-warden, a ddarllenodd y llith Gymraeg yn y gwasanaeth.

Yr Hybarch Andy John, Archddiacon Ceredigion

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>