Nos Wener diwethaf roedd ‘na gyfarfod arbennig o gangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru yng nghanolfan Merched y Wawr. Roedd dau wedi dod i siarad sef Adam Price, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ac ymgeisydd seneddol Ceredigion, Penri James. Fe roddodd Adam Price arolwg o’r sefyllfa economaidd a’r ffordd allan o’r argyfwng presennol. Roedd ei ymdriniaeth yn feistrolgar, ond fel un nad yw’n deall cymaint â hynny am economeg mae’n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn deall popeth yr oedd yn ei ddweud. Un o’r pethau allweddol yn ei gyflwyniad oedd yr angen am fuddsoddiad cyhoeddus mewn projectau mawr er mwyn creu swyddi ac er mwyn ceisio atal chwalfa economaidd. Roeddwn i’n rhyw hanner gobeithio y buasai’n sôn am ail-agor rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ond roedd yn rhaid imi adael hynny yn ffantasi. Defnyddiodd Penri James ei gyflwyniad fel cyfle ef i osod allan ei weledigaeth ar gyfer sefydlu Coleg Milfeddygol yn Aberystwyth i wasanaethu Cymru. Ar hyn o bryd nid oes yr un ffordd i hyfforddi ar gyfer milfeddygol yng Nghymru ac mae prinder mewn milfeddygon sy’n arbenigo mewn anifeiliaid mawr, sef anifeiliaid fferm megis gwartheg, defaid a moch. Noson dda.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael