Roedd y penwythnos diwethaf yn benwythnos Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys y Santes Fair. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddwn yn neilltuo amser i ystyried haelioni Duw tuag atom ac i ddiolch iddo am hynny trwy fawl, addoliad a dathlu.
Dechreuodd y dathlu nos Sadwrn 11 Hydref gyda Swper Cynhaeaf yn Neuadd y plwyf. Roedd tîm o bobol wedi bod yn brysur yn cynllunio a pharatoi swper am yn agos i 80. Roedd hyn yn rhan o ddathlu haelioni Duw. Wedi’r swper cynhaliwyd cwis llawn hwyl ac fe wnaeth Siôn ddweud gair am waith Tearfund. Bydd yr arian a gesglir yn Eglwys y Santes Fair dros yr ŵyl yn mynd tuag at waith Tearfund gyda’i partneriaid yng ngorllewin Affrica.
Fore Sul, 12 Hydref, cynhaliwyd gwasanaeth y Cymun Bendigaid ar gyfer holl deulu’r eglwys gyda phlant a phobl ifainc yr Ysgol Sul yn cymryd rhan. Fe wnaethant hwy actio hanes Duw yn darparu bwyd i blant Israel yn yr anialwch wedi iddynt adael caethiwed yr Aifft pan wnaeth roi iddynt soflieir a manna i’w cynnal. Wedyn cafwyd anerchiad gan y Dr Dewi (Arwel) Hughes o Bontypridd, ymgynghorydd diwinyddol Tearfund. Ef hefyd oedd y pregethwr yng ngwasanaeth yr Hwyrol Weddi hefyd.
Rwyf wrthi yn darllen dau lyfr gan Dewi Hughes ar hyn o bryd. Mae newydd gyhoeddi llyfr newydd Power and poverty: divine and human rule in a world of need. Prif thema y llyfr yw sut y mae camddefnyddio grym yn arwain at ddioddefaint eraill yn y byd ac mae’n holi a ydyn ni’n rhan o’r camddefnydd hwnnw. Yr ail lyfr yw Castrating culture: a Christian perspective on ethnic identiy from the margins
. Mae hwn yn llyfr arbennig o ddiddorol i Gymry gan taw enghraifft fawr y mae’n dychwelyd ati dro ar ôl tro yn y llyfr yw un Cymru, ac yn arbennig ei brofiad yntau. Un o’r pethau mae’n ei wneud yw adrodd sut y daeth yn un o arweinyddion yr ymgyrch dros addysg Gymraeg yn ardal Pontypridd yn y 1980au. Digwydd hyn i gyd yng nghyd-destun ymdriniaeth ddiwinyddol ar hunaniaeth ethnig.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Fe hoffwn i hefyd ddarllen y llyfrau hyn. A fyddai modd imi gael eu benthyg rywbryd?