Roedd y cyfarfod roeddwn ynddo yn cael ei gynnal mewn gwesty ar gyrion Rhydychen. Gwesty modern a chymharol newydd (neu o leiaf wedi’i adnewyddu) oedd hwn wedi’i adeiladu o gwmpas a chan addasu hen ysguboriau – felly roedd y lle yn drofa o goridorau ac ystafelloedd bychain. Yn y rhan o’r gwesty lle roeddwn i’n aros roedd yr holl ystafelloedd yn cario enwau colegau Prifysgol Rhydychen – fel mae’n digwydd roeddwn i’n aros yn ystafell Coleg Caerwrangon. Dwi ddim yn siŵr a oeddwn i wedi clywed sôn am y coleg cyn hyn. Ond o beth dwi’n deall bellach mae’n goleg hynafol, er na chafodd ei sefydlu yn ei ffurf bresennol tan 1714, ac yn alma mater i Adrian Hastings, Rupert Murdoch a Rusell T Davies ymhlith eraill.
Gorffennodd y cyfarfod am ryw 3.45pm ac roeddwn i ar y trên ar y ffordd yn ôl i Aberystwyth erbyn 17:06. Dwi’n falch o fedru dweud fod y daith yn ôl yr un mor hwylus a didrafferth â’r daeth yno. Da o beth oedd hynny i unrhyw un a fyddai wedi fy ngweld i wedi’r daith – petai wedi bod yn un wael buaswn i mewn tymer ddrwg; ond nid felly y bu.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael