Rhydychen

Dwi’n ysgrifennu’r cofnod hwn ar Flog Dogfael yn bell o Blas-yn-Dogfael. Dwi ar hyn o bryd yn aros tros nos ar gyrion dinas Rhydychen. Dwi yma i gyfarfod yn ymwneud gyda fy ngwaith. Dwi’n bell o ganol y ddinas felly dwi ddim yn credu y bydd unrhyw gyfle i chwarae’r twrist. Un o’r rhesymau dros ddweud hyn yw er mwyn canmol y gwasanaeth trenau. Es i ar y trên o Aberystwyth (Arriva Trenau Cymru), gan newid yn Wolverhampton, i Rydychen (CrossCountry) yn gwbl ddidrafferth. Roedd y trenau ar amser ac roedd ‘na le i eistedd arnyn nhw. Wrth gwrs, gall y daith yn ôl yn wahanol ac er fy mod i’n gobeithio cyrraedd yn Aberystwyth erbyn rhyw 9.30pm mae’n debyg taw ar y trên olaf y byddai’n cyrraedd yno mewn gwirionedd – dwi’n gobeithio fy mod i’n anghywir yn hynny o beth, ond dyna brofiad y gorffennol.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>