Mae esgobion yn mynd yn iau a finnau’n mynd yn hen

Barry Morgan, Archesgob Cymru a'r Hybarch Andy JohnWel, fe gafodd esgobaeth Bangor John fel esgob newydd, ond Andy ac nid Jeffrey. Mae’n rhyfedd sut mae’r pethau yma yn digwydd. Mae’n siŵr bod gan y ddau ohonyn nhw rhyw gysylltiad â Sir Benfro gan taw cyfenw Penfroaidd yw John. Dwi’n gwybod fod Jeffrey John yn dod o Donyrefail yn wreiddiol ond dwi ddim yn gwybod llawer mwy na hynny am ei dylwyth. Mae Andy John yn dod o Aberystwyth, ond roedd ei dad yn dod o Abertawe Aberdâr yn wreiddiol ac fe ddaeth i Aberystwyth i weithio fel darlithydd mewn Ffrangeg yn y Brifysgol.

Ond mae gweld Andy John yn cael ei ethol yn esgob Bangor yn gwneud imi deimlo’n hen. Dwi’n ei chael hi’n anodd credu fy mod yn adnabod esgobion bellach, ond yn waeth na hynny mae’r esgobion hynny yn iau na fi. Dwi wedi dygymod â phlismyn iau ers blynyddoedd bellach, ond esgobion iau – mae hyn yn beth newydd iawn. Wrth i mi ddynesu tuag at fy hanner cant mae’n siŵr y bydd yn rhaid gwneud rhyw fath o gwrs i’m helpu i ddod i delerau â hyn hefyd.

Dyma beth sy’n cael ei ddweud am Andy John ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Yr Hybarch Andrew John

Maged Andrew John, yn Aberystwyth.  Aeth i Ysgol Penglais.

Graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, yn 1986 ac mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham yn 1988. Yn 1989 astudiodd at Ddiploma mewn Astudiaethau Bugeiliol yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham.

Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi yn 1990 a threuliodd ei holl weinidogaeth hyd yma yn yr esgobaeth honno. Bu’n gurad Aberteifi, Y Ferwig a’r Mwnt o 1989 hyd 1991, ac Aberystwyth o 1991 hyd 1992. Bu’n ficer ym Mywoliaeth Reithorol Aberystwyth o 1992 hyd 1999, a Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth o 1999 hyd 2005 – plwyf a ehangwyd yn 2005 i gynnwys Llanbadarn Trefeglwys.

Bu’n ficer Pencarreg a Llanycrwys er 2006 ac yn Archddiacon Ceredigion er  2006.

Mae’n briod â Caroline, 43, rheolwr prosiect gyda Gofal am yr Henoed sydd hefyd yn ddiacon yn yr Eglwys yng Nghymru. Ordeiniwyd Caroline yn ddiacon pan ordeiniwyd Andy yn offeiriad yn 1990. Mae ganddynt bedwar o blant, Matthew, 16, Bethany, 15, Hannah, 13 a Harriet, 11.

Mae Andy John yn mwynhau rhedeg, chwarae sboncen, beicio mynydd a chanu’r sacsoffon a’r gitâr.

Fy ngweddi i yw bendith Duw ar ei weinidogaeth, ei deulu a’r esgobaeth.

Yr Hybarch Andy John, Archddiacon Ceredigion

Andy John yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth adeg y Diolchgarwch, 2006.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Mae esgobion yn mynd yn iau a finnau’n mynd yn hen

  • Dr HW, diolch am yr wybodaeth ychwanegol a’r cywiriad pwysig.

  • Dr HW

    Gŵr o Aberdâr ym Morgannwg yw Stuart, tad Andy. Y mae’n gyfoed â’r Dr Brynley F. Roberts, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gynt. Mae Jennie, mam Andy, yn wreiddiol o Seland Newydd, a bu hithau yn athrawes yn Ysgol Pen-glais am flynyddoedd. Brawd Andy yw Richard John, sy’n gyfreithiwr yn nhref Aberystwyth, ac mae ei wriag yntau yn ferch i’r diweddar Bertie Lewis, a fu’n Ddeon Tyddewi.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>