Heno fe fues i mewn cyfarfod o Siambr Fasnach Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad yno fel cynghorydd tref oherwydd fod Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu rheoliadau ar gyfer rheoli dodrefn stryd yn unol ag adran 137 Deddf Priffyrdd 1980 (c.66) yn gwahardd atalfeydd ar briffyrdd (sy’n cynnwys palmentydd) a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (c. 30). Golyga hyn fod yn rhaid i siopwyr sydd am osod arwyddion ar y stryd neu berchnogion caffis sydd am osod bordydd a chadeiriau tu fas yn gorfod gwneud cais am drwydded y byddai’n rhaid talu amdano’n flynyddol. Yn ogystal bydd yn rhaid i bob siop gael gofod o ryw 1.8m o bafin yn rhydd o flaen ei siop ar ôl gosod unrhyw beth o’i blaen – gallai hyn olygu trafferth i rai busnesau.
Roedd llawer o’r siopwyr yn grac iawn gyda hyn. Yn bennaf oherwydd nad yr awyrgylch economaidd presennol yw’r un gorau i’r cyngor geisio mwy o arian gan fusnesau bychain. Hefyd doedden nhw ddim yn hapus am nad oedd y cyngor wedi esbonio yn ddigon da beth oedd bwriad ganddynt i’w wneud. Roedd hi’n amlwg fod y cyngor yn gwybod fod rhywbeth o’i le gan fod pump o gynrychiolwyr yno, gan gynnwys y Cyng Ray Quant,, sef aelod y cabinet a chyfrifoldeb am briffyrdd.
Cafwyd trafodaeth fywiog ac fe fynegwyd llawer o siom a gofidiau’r busnesau. Roedd y drafodaeth gychwynnol braidd yn negyddol ac nid oedd y ddadl yn mynd i unman am dipyn, ond fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau gyda’r drafodaeth mewn gwirionedd. Roedd aelodau’r Siambr Fasnach a swyddogion y cyngor yn trafod yn dda. Fe addawodd y Cyng Ray Quant y byddai’r cabinet yn ailystyried mater ffioedd, ac fe gafwyd awgrym hefyd y gellid newid y rheoliad am led pafin o flaen siop mewn rhai amgylchiadau. Addawyd na fydda dim yn digwydd yn ddirybudd ac y byddai cynrychiolwyr y Siambr Fasnach yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau pellach.
Wrth gwrs roedd y rheoliadau wedi’u pasio gan y cabinet ac roedd hi braidd yn rhyfedd i weld rhai cynghorwyr Dem Rhyddiaid yn dadlau yn gryf yn erbyn y cynllun pan taw cynrychiolwyr eu plaid hwy ynghyd â’r Annibynwyr oedd wedi bod yn gyfrifol am dderbyn y polisi heb ystyried yn iawn beth fyddai ei effaith ar fusnesau bach yn gyffredinol, ac yn arbennig felly yn Aberystwyth. Fe fydd hi’n rhaid i nifer o fusnesau aros i weld a ydyn nhw yn medru argyhoeddi’r arolygwyr fod eu hachosion hwy yn rhain sy’n teilyngu eu heithrio o dan y rheoliadau.
Ar y ffordd yn ôl o Ganolfan Arad Goch fe wnes i gerdded ar hyd y promenâd ac roedd bois yr hewl wrthi’n brysur yn gosod wyneb newydd ar y ffordd yno.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael