Nos Lun roedd cylch trafod llyfrau Aberystwyth yn cyfarfod yn yr Orendy, Stryd y Farchnad. Roedd dau lyfr o dan sylw yn y noson. Cyfrol gyntaf o farddoniaeth y bardd dawnus Eirug Salisbury, Llyfr glas Eirug a nofel Siôn White (gyda chymorth Catrin Dafydd), Y dyn handi.
Fel arfer doedd pawb ddim wedi darllen popeth; ond roedd mwy wedi darllen cyfrol Eirug Salisbury nag oedd wedi darllen nofel Siôn White. Dyna oedd fy sefyllfa i. Doedd gen i ddim sylw i’w wneud ar y nofel ond roedd gen i fy marn ar gyfrol Salisbury. Sylwer fy mod yn dewis fy ngeiriau yn ofalus, roedd fy sylwadau yn ymwneud gyda’r gyfrol. Dim ond trwy chwys fy wyneb yr wyf fi’n llwyddo i ysgrifennu un llinell o gynghanedd felly mae darllen gwaith rhywun sy’n llwyddo i lenwi cyfrol gyfan gyda chanu caeth heb ymddangosiad yr un diferyn o chwys yn gwneud imi deimlo’n annigonol iawn (bron cymaint â phan dwi’n ystyried camp Phillipa Gibson).
Efallai y bydd rhywun sy’n fwy abl i’m dadansoddi’n seicolegol yn sylweddoli taw o’r teimladau hynny y daw fy sylwadau am y gyfrol bod ‘na ormod o gynghanedd ynddi! Byddai cynnwys rhyw draean i chwarter yn llai o gerddi wedi golygu y byddai’r darllenydd wedi canolbwyntio yn fwy penodol arnynt ac wedi eu gwerthfawrogi’n fwy. Ond pan mae llunio cywydd ac englyn yn dod mor hawdd i ddyn ag y mae’n ymddangos y mae i Eurig efallai ei bod hi’n anodd gwybod pryd i ymatal. Dwi wedi’i glywed yn perfformio ac mae’n gwneud hynny gyda’r un afiaith ac ymrwymiad ag y mae’n cyfansoddi. Fel gweithiau unigol mae gan bob un o’r cerddi rywbeth i’w gynnig i’r darllenydd, ond mae’n rhaid hefyd ystyried effaith y cyfanwaith a dwi’n credu taw dyna’r man gwan. Byddai ychydig mwy o docio wedi newid hynny.
Does gen i ddim byd i’w ddweud am nofel Siôn White.
Digwyddodd un peth diddorol yn ystod y noson. Roeddem ni yn cyfarfod yn y bar coctêls. Ar y wal roedd ‘na ddarlun wedi’i orchuddio gan liain du. Ond am 8.00pm dyma rhywun yn dod i fewn i’r ystafell a thynnu’r lliain i ddangos darlun enfawr o fenyw borcen yn gorwedd. Roedd ‘na nodyn ar y wal yn esbonio nad oedd y llun yn cael ei arddangos tan wedi 8.00pm er mwyn bod yn sensitif i’r a allai gael eu hypsetio gan y fath lun. Digon teg. Dwi’n ei atgynhyrchu’n fach yma ar Flog Dogfael am union yr un rheswm.


![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[LinkedIn]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/linkedin.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Gwneud sylw