Mae wedi bod yn gwpwl o ddiwrnodau eithaf prysur i ddweud y gwir. A doedd dydd Sadwrn ddim yn wahanol. Dwi’n aelod o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau; sef grŵp sy’n cefnogi ac yn hybu gwaith y Cyngor sydd yn ei dro yn cefnogi pob agwedd ar y diwydiant llyfrau yng Nghymru ac yn hybu diddordeb mewn llyfrau. Yn ogystal â bod yn aelod rydw ar y Pwyllgor Llywio. Mae’ Cyfeillion yn gymdeithas gyfeillgar a’u haelodau yn rhannu dileit mewn llyfrau. Ac mae bod yn aelod yn porthi’r deleit hwnnw’n wych trwy gysylltu’n rheolaidd â’r Cyfeillion, mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu cyflwyno iddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am y byd llyfrau yng Nghymru, yn ogystal â hynny mae aelod yn derbyn tocyn mantais o £2.50 i’w wario ar lyfrau Cymraeg a Chymreig deirgwaith y flwyddyn, yn ogystal â gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol lle mae cyfle i glywed yr Athro M Wynn Thomas yn siarad gyda rhai o’n llenorion ac awduron amlycaf. A’r cyfan am dâl aelodaeth o £15 y flwyddyn.
Eleni yr awdur a wahoddwyd i siarad oedd Hywel Teifi Edwards. Yr oeddwn i wedi tybio y byddem yn clywed yr hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl am ei waith academaidd – ei astudiaethau o ddiwylliant, llenyddiaeth a bywyd Cymru oes Victoria. Mewn geiriau eraill doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd newydd. Cefais fy siomi ar yr ochr orau, oherwydd yr hyn a gafwyd oedd hanes ei fagwraeth a’i llencyndod yn Aberarth, Ceredigion, hyd iddo fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (fel yr oedd bryd hynny) i astudio Cymraeg. Does dim angen imi ddweud wrth neb am y ddawn sydd gan Hywel Teifi i adrodd stori, mae ei allu i gofio yn ddihareb. Os wnewch chi roi’r ddau beth hynny at ei gilydd mae awr yn hedfan a dyna a ddigwyddodd. Un o’r pethau diddorol wnaeth e ei ddweud oedd am ei allu i gofio ac i ddysgu cerddi ar ei gof mewn mater o awr neu ddwy. Dywedodd sut y gwnaeth ei athrawes Gymraeg yn Ysgol Sir Aberaeron danio ei gariad at y Gymraeg: cariad sydd yn amlwg wedi aros gydag ar hyd ei oes.
Prynhawn hyfryd o ddifyrrwch reit bur.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael