Lansio llyfr ffotograffau John Thomas

Hen ffordd Gymreig o fywRoedd nos Wener yn noson arbennig gan fy mod i wedi cael gwahoddiad i gadeirio noson lansio llyfr am y ffotograffydd John Thomas (1838-1905). Ef yw un o ffotograffwyr pwysicaf ac arloesol Cymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Lerpwl, ond cafodd ei eni a’i fagu yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan, ac yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru yn gwnaeth y rhan fwyaf o’i waith. Mae ei gasgliad o ryw 3,000 o negyddion gwydr yn rhan o’r Casgliad Ffotograffau Cenedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ysgrifennwyd y llyfr, Hen ffordd Gymreig o fyw: ffotograffau John Thomas, gan Iwan Meical Jones. Ef oedd fy rheolwr cyntaf i yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yno y cefais i’r fraint o drosglwyddo cofnodion catalog am y casgliad o gardiau catalog i gronfa ddata electronig. Yn ddiweddarach cefais y fraint ychwanegol o fod yn rhan o’r tîm wnaeth ddigido’r casgliad er mwyn ei osod ar wefan y Llyfrgell i bawb fedru ei chwilio a’i werthfawrogi.

Y dorf yn Drwm y Llyfrgell Genedlaethol

Mae’r llyfr yn un rhagorol sy’n gwneud tri pheth. Yn gyntaf mae’r ffotograffau wedi’u hatgynhyrchu i safon uchel iawn ac yn gwneud tegwch a’r gwreiddiol. Yn ail y mae’r awdur yn darparu nodiadau defnyddiol ar bob ffotograff. Yn drydydd ceir rhagymadrodd meistrolgar sy’n crynhoi hanes bwyd a gwaith John Thomas, ond sydd hefyd yn ceisio mynd i’r afael â deall ei waith yn ei gyd-destun cymdeithasol. Dwi’n credu fod John Thomas wedi cael y llyfr y mae’n ei haeddu, ond byddwn i’n gobeithio y bydd y llyfr yn sbardun i eraill i fynd ati i edrych ar ei waith. Gan bod y llyfr yn un dwyieithog – Cymraeg a Saesneg – dwi’n gobeithio y bydd cynulleidfa ryngwladol yn cael eu cyflwyno i’w waith ac y bydd haneswyr ffotograffiaeth yn bwrw eu llinyn mesur drosto. Yn fy nhyb i mae ei weledigaeth ffotograffig yn un sy’n haeddu ei lle ochr yn ochr â meistri eraill y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y derbyniad wedi'r lansiad

Fel y dywedais i cefais i’r fraint o gadeirio’r noson lansio. Cyhoeddir y llyfr ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Gwasg y Lolfa a’r cyntaf i siarad ar y noson oedd Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell. Fe’i dilynwyd gan gynrychiolydd y Lolfa, Lefi Gruffudd. Wedyn fe siaradodd yr Athro Hywel Teifi Edwards, prif ddehonglydd Cymru Oes Victoria yng Nghymru ac felly oes John Thomas. Roedd ei gyfraniad yntau yn un meddylgar ac emosiynol wrth iddo sôn am rai o’r delweddau penodol, yn arbennig felly y llun o’r bardd a’r pensaer Talhaiarn – llun a dynnwyd gan John Thomas ychydig cyn marwolaeth y bardd trwy’i law ei hun.

Talhaiarn

Yr olaf i siarad oedd yr awdur, Iwan Meical Jones, ac yn ei gyflwyniad fe wnaeth yr achos yn gryf iawn dros ystyried John Thomas yn un o ffotograffwyr mawr y byd. Siaradodd gyda’r un brwdfrydedd dros ei bwnc ag y gwnaeth pan wnes i gwrdd ag e am y tro cyntaf bron i ugain mlynedd yn ôl. Diolch am hynny!

Rhagor o luniau o’r noson lansio.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>