Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi bod yn cynnal noson gwis i staff a myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddigon hir i’r peth gael ei ystyried yn draddodiad. Ond dwi’n credu taw eleni oedd fy mhedwerydd cwis a dwi wedi dysgu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau nad y cwis yw’r peth pwysig, ond y cyfle i’r myfyrwyr a’r staff i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Felly mae natur y cwestiynau wedi newid gyda’r pwyslais yn fwy ar y math o gwestiynau a fyddai’n gofyn i bobol drafod gyda’i gilydd a chytuno (neu anghytuno!) ar atebion.

Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Eleni roedd y cwis yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth – ac roedd hi’n noson ddifas iawn o ran tywydd. Eto i gyd daeth nifer go dda at ei gilydd yn fyfyrwyr a staff. Fel arfer roeddwn i’n ceisio dod o hyd i fyfyrwyr oedd yn dod o Sir Benfro. Fues i ddim yn llwyddiannus yn fy nghais, ond fe wnes i gwrdd â rhai o Gaerdydd, Y Barri, ardal Wrecsam, Caerfyrddin, Casnewydd, Cwmafan, Penegoes, a San Clêr. Eleni roedd ‘na newid bach yn y drefn gyda’r staff yn newid byrddau hanner ffordd trwy’r gystadleuaeth.

Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Cafwyd chwe rownd i gyd: Cyffredinol 1, Llefydd, Pwy ydw i?, Anagramau awduron, Ffilmiau a Chyffredinol 2. Golygai hyn 98 o gwestiynau i’w hateb a pharodd y cwis am ryw awr a chwarter.

Dyma’r anagramau awduron i ddarllenwyr Blog Dogfael eu datrys. Maen nhw i gyd yn awduron Cymraeg, mae tri yn dal i fod yn fyw, dau o’r ugeinfed ganrif, un o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dau o’r ddeunawfed ganrif, un o’r cyfnod modern cynnar, ac un o’r canol oesoedd.

  1. BREAK OTTERS
  2. DADDY FLAG WIMPY
  3. JAWS DIM ILL
  4. NEON ORGY WOW
  5. LEADEN WINO
  6. NANNY ELF ME
  7. DID WHOOPER MORE
  8. AIRMAIL BUY SWELLS
  9. FARTHINGS FIN
  10. A SNOWMOBILE WRITER

Rhagor o luniau o’r noson gwis.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Cwis yr Adran Gymraeg 2008

  • Llongyfarchiadau ceri wyn, dwi’n credu dy fod ti iawn ac wedi dyfalu pyw yw e/hi. Bydda i’n rhoi’r atebion ar y blog o fewn rhyw dau neu dri diwrnod.

  • Wi’n credu bo fi wedi cal rhif 7 – odd e/hi yn y coleg gyda fi ac mae fe/hi’n brifardd ac o ran ei g/allu mae hi/fe’n awdur o fri erbyn hyn sy’n casglu gwobra hyd at y drydedd cais.

    Nai witho ar y lleill ond gobitho y byddi di’n rhoi’r atebion inni maslaw.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>