Derbyn anrheg am yr eildro
Derbyniais anrheg heddiw yr oeddwn i wedi ei derbyn unwaith o’r blaen dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn 1996 roedd cyfaill annwyl wedi rhoi anrheg i mi, sef copi o lyfr James Nicholas ar Waldo Williams yn y gyfres Bro a bywyd. Roeddwn i wedi dwlu ar y llyfr ac wedi’i ddarllen a’i ail-ddarllen drosodd a thro. Roedd yn ddiddordeb i mi oherwydd fy nghysylltiad i â Waldo, Mynachlog-ddu a Sir Benfro. Yn ychwanegol at hynny dyma efallai y peth agosaf at fywgraffiad Waldo sydd ar gael. Ond am ryw reswm fe aeth y llyfr ar goll. Roeddwn i wedi credu ei fod ar goll ym Mhlas-yn-Dogfael – ar ryw silff, neu mewn rhyw gwpwrdd lle nad oeddwn i yn medru ei weld – ond ar ôl chwilio a chwilio roeddwn i wedi ildio. Credwn nad oeddwn yn mynd i ddod o hyd iddo eto hyd nes y byddwn yn symud ac i ddweud y gwir roeddwn i wedi dechrau edrych mewn siopau llyfrau ail-law yn y gobaith o ddod o hyd i gopi newydd. Felly nid oes unrhyw ffordd imi ddisgrifio fy llawenydd heddiw wrth ddod i’r gwaith y bore ‘ma a chael amlen trwy’r post mewnol yn cynnwys fy nghopi colledig o’r llyfr. Am ryw reswm roeddwn wedi dod â’r llyfr i’r gwaith flynyddoedd maith yn ôl ac o dipyn i beth roeddwn i a’r llyfr wedi symud yn bellach ac yn bellach oddi wrth ein gilydd nes imi anghofio yn llwyr lle’r oedd e. Diolch yn fawr iawn, Anne, am ddod o hyd i’r llyfr a’i anfon yn ôl ata i! A diolch yn fawr, gyfaill, am roi y fath drysor o lyfr i mi yn y lle cyntaf!


(1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael