Dros y penwythnos trefnodd y Gynghrair Efengylaidd gymanfa ar flogio Cristnogol yn Llundain. Un o’r pethau a ddaeth allan o’r gymanfa oedd deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Bwriad y gorchmynion yw ceisio gwneud blogwyr yn ymwybodol o effaith posib eu blogio. Mae’r Gynghrair yn croesawu ymateb ac awgrymiadau ynglŷn â’r gorchmynion hyn. Dyma fy ymgais i i’w cyfieithu i’r Gymraeg.
- Na osod dy flog o flaen gwneud yr hyn sy’n iawn.
- Na wna iti ddelw gerfiedig o’th flog.
- Na chamddefnyddia dy enw sgrîn a’r ffaith dy fod yn anhysbys fel cyfle i bechu.
- Cofia’r Saboth trwy roi’r gorau i flogio am un diwrnod yr wythnos.
- Anrhydedda dy gyd-flogwyr yn fwy na thi dy hun a phaid â thynnu gormod o sylw i’w camgymeriadau hwy.
- Na ladd anrhydedd, enw da na theimladau neb arall.
- Na ddefnyddia’r we i odinebu ac na odineba yn dy feddwl.
- Na ladrata gynnwys neb arall.
- Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gyd-flogiwr.
- Na chwennych safle dy gymydog yn siart y blogwyr. Bydd fodlon gyda’th gynnwys dy hun.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael