Nofelau C J Sansom

RevelationDwi’n llawn cynnwrf oherwydd heddiw fe fues i yn Siop Lyfrau Oxfam yn Aberystwyth a chael copi o’r bedwaredd nofel, Revelation, yng nghyfres Shardlake yr awdur C J Sansom. Dechreuais i ddarllen nofelau’r gyfres ‘nôl ar ddechrau mis Awst ac fe wnes i orffen y drydedd nofel rhyw bythefnos yn ôl. Dwi wedi cael blas mawr ar y nofelau, sy’n beth rhyfedd imi achos taw nofelau ditectif ydyn nhw mewn gwirionedd. Ond yr hyn sy’n fy nenu i atyn nhw yw eu bod wedi’u gosod yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn ystod teyrnasiad Henry VIII. Cyfreithiwr yw’r prif gymeriad, Matthew Shardlake ac mae’r nofelau yn dod â’r cyfnod yn fyw iawn, ond mae’r awdur hefyd yn storïwr penigamp sy’n gwneud hyd yn oed i rywun fel fi fynnu troi’r tudalennau nes ei fod yn gwybod beth sy’n digwydd. Roedd eu darllen yn Norfolk yn arbennig o amheuthun.

Dyma nofelau’r gyfres.

Dissolution – Cefndir y nofel hon yw diddymu’r mynachlogydd. (Wedi’i darllen)
Dark fire – Cwymp Thomas Cromwell fel prif weinidog i’r brenin Henry VIII yw cefndir y nofel hon. (Wedi’i darllen)
Sovereign – Gwrthryfel a chynllwyn yng ngogledd Lloegr a chwymp pumed gwraig Henry VIII, Catherine Howard, yw cefndir y nofel hon. (Wedi’i darllen)
Revelation – dyma beth mae’r broliant yn ei ddweud am y nofel hon.

Spring, 1543. King Henry VIII is wooing Lady Catherine Parr, whom he wants for his sixth wife. Archbishop Cranmer and the embattled Protestant faction at court are watching keenly, for Lady Catherine is known to have reformist sympathies. Matthew Shardlake, meanwhile, is working on the case of a teenage boy who has been placed in the Bedlam insane asylum, before his terrifying religious mania leads to him being burned as a heretic. When an old friend is horrifically murdered Shardlake vows to bring the killer to justice. His search leads him to Cranmer and Catherine Parr – and to the dark prophecies of the Book of Revelation. As London’s Bishop Bonner prepares a purge of Protestants Shardlake, together with his assistant, Jack Barak, and his friend, Guy Malton, investigate a series of horrific murders which are already bringing frenzied talk of witchcraft and demonic possession – for what else would the Tudor mind make of a serial killer …?

Dwi’n edrych ymlaen i’w darllen, yr unig drafferth yw na fydda i’n medru rhoi’r llyfr lawr i fynd i gysgu hyd yn oed.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>