Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2008

Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2000“Barddas newydd – cyfnod newydd” – dyna’r neges ar glawr rhifyn diweddaraf Barddas sydd newydd gyrraedd Plas-yn-Dogfael. Fel arfer dyma un o rifynnau mwyaf difyr y flwyddyn wrth i’r golygydd ac aelodau eraill y Gymdeithas Gerdd Dafod fwrw golwg dros gynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r eisteddfod yn bwrw ei chysgod yn drws dros y rhifyn, fel y buasai dyn yn ei ddisgwyl. Ar y clawr mae llun lliw hyfryd o enillydd y goron, Hywel Griffiths.

Ond mae’r rhifyn hwn yn arbennig hefyd am ei fod y cylchgrawn wedi cael ‘gwneuthuriad-drosodd’. Mae’r clawr yn dwyllodrus o adnabyddus, ond y tu mewn mae rhywun wedi mynd yn wyllt gyda’r ffontiau a’u meintiau a chyda’r gosod! Y rheswm dros y newid radical yw nodi’r ffaith fod Barddas wedi cyrraedd rhifyn 300. Rhaid llongyfarch y cylchgrawn ar gyflawni’r gamp honno, ac yn fwy na dim rhaid llongyfarch y golygydd, Alan Llwyd. Mae llawer yn Barddas sy’n fy nifyrru ac yn fy nghythruddo, ond nid yw byth yn fy niflasu, ac mae hynny’n deyrnged i’r golygydd bid siŵr. Yn ei olygyddol mae yntau yn esbonio cymaint o waith yw hyn i un dyn.

Teimladau cymysg sydd gen i ar gyrraedd rhifyn 300, mae’n rhaid i mi gyfaddef… Mae’r teimladau cymysg yn deillio o’r ffaith mai trwy chwys fy wyneb y cynhyrchaf bob rhifyn o Barddas, ac fe wnaf hynny rhwng pyliau llethol o drymwaith, golygu cyfrol ar ôl cyfrol, a llawer ohonyn nhw yn gyfrolau swmpus a chryn dipyn o waith arnyn nhw. Ac ar ben hynny, rwy’n mynnu mynd ymlaen â’m llyfrau personol i – llawer ohonyn nhw yn cael eu cyhoeddi gan Barddas, ond nid pob un. Hoffwn weithiau pe bai rhai pobl yn ystyried faint y mae hyn oll yn ei olygu i un dyn o ran adnoddau corfforol a meddyliol. Nid ar chware bach y cyflawnwyd hyn oll.

Dyma gynnwys y rhifyn hwn.

  • Y golofn wadd gan Dai Rees Davies
  • Eisteddfod Gadeiriol Lewis’s Lerpwl gan D Ben Rees
  • Awdl Pedr (Gwynn ap Gwilym) o Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch
  • Ceri Wyn Jones yn sôn am Iobs Cymrâg
  • Awdl Kong (Eurig Salisbury) o Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch
  • Gwynfor ab Ifor y trafod arbrofi gyda’r gynghanedd
  • Trafod digido mae Grahame Davies yn ei golofn
  • Dafydd Islwyn sy’n cofio R J Rowlands, Y Bala
  • Mae Angharad Rhys Williams yn olrhain hanes mam David Ellis, Penyfed, sef Elizabeth Alice Ellis
  • Mae Bobi Jones yn adolygu cyfrol Saunders Lewis ar Williams Pantycelyn (1927)
  • Ceir detholiad o englynion i gofio’r ddiweddar Anwen Tydu
  • Adroddir pwy oedd buddugwyr Tlysau Barddas 2008 – Iwan Rhys (Tlws Coffa W D Williams), Tudur Dylan Jones (Tlws Coffa Roy Stephens), T James Jones (Tlws y Gerdd Rydd), Llŷr Gwyn Evans (Tlws Coffa D Gwyn Evans), Marged Tudur (Tlws Cerdd yr Ysgolion Uwchradd), Teleri Fflur Evans (Tlws Pat Neill)
  • Gair o’r Gadair yw ail gyfle Dai Rees Davies i gael dweud ei ddweud
  • Pigion o ymryson Eisteddfod 2008 (ynghyd â thudalen cyfan o luniau o 22 ymrysonwr – dylid cynnig gwobr am eu hadnabod i gyd yn llwyddiannus!)
  • Siôn Aled sy’n dweud wrthon ni sut mae e’n gweld pethau
  • Trafodir cerddi’r gadair gan Iwan Rhys a Ceri Wyn Jones
  • Trafodi’r cerddi’r goron gan Gwynn ap Gwilym, Iwan Llwyd a Cen Williams
  • Ceir detholiad o gerddi gan Myrddin ap Dafydd sydd yn mynd i ymddangos yn ei gyfrol Bore newydd
  • Barack Obama oedd testun cystadleuaeth yr englyn a’r buddugol yw Ffenics
  • Mae Donald Evans yn parhau i drafod traddodiad a chyfoesedd 1950-1999
  • Ceir adolygiadau o Lyfr Glas Eurig (Idris Reynolds), Cyfansoddiadau a beirniadaethau eisteddfod Caerdydd a’r cylch 2008 (John Glyn Jones), Yr odliadur newydd (Norman Closs Parry) a Bro a bywyd Kyffin Williams (Rheinallt Llwyd)
  • Ac yma thraw rhwng ac ynghanol yr erthyglau ceir cerddi gan Huw Meirion Edwards, Norman Closs Parry, Alan Llwyd, R O Williams, Iwan Rhys, Osian Rhys, John Pinion Jones, Ithel Rowlands, Elwyn Edwards, Bobi Jones, Cen Williams, Dafydd Pritchard, Emrys Roberts, Christine James, Cynan Jones.

Digon i gadw rhywun yn dawel am ddeufis o leiaf… tan y rhifyn nesaf.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>