Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (6)

Roedd ‘na lawer o bethau bach diddorol i’w gweld yn Eglwys S Andrews, Sempringham ac fe wnaeth Nan a Nigel wneud yn siŵr nad oedden ni’n colli dim. Yn yr eglwys ei hun mae ‘na gornel wedi’i neilltuo ar gyfer croesawu ymwelwyr o Gymru sydd yn dod i weld cofeb Gwenllïan. Er i’r rhan fwyaf o’r adeilad gael ei adnewyddu yn oes Victoria mae ‘na elfennau pensaernïol cynharach ynghyd â dodrefn. Efallai y peth mwyaf diddorol i mi oedd yr ysgubor ddegwm yng nghornel y fynwent o oes y Tuduriaid. Dyma lle roedd degwm, neu ddegfed rhan, o gynnyrch ffermydd lleol yn cael eu storio. Treth oedd y degwm yr oedd yn rhaid i ffermwyr dalu i’r eglwys wladol. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg troswyd talu’r degwm mewn cynnyrch i’w dalu mewn arian. Roedd talu’r degwm i’r eglwys wladol yn achos llawer o wrthdaro yng Nghymru gan nad oedd mwyafrif y rhai oedd yn gorfod ei dalu yn perthyn i’r eglwys honno. Galwyd y digwyddiadau hyn yn Rhyfel y Degwm. Digwyddodd pethau tebyg yn Iwerddon a rhannau o Loegr lle’r oedd anghydffurfwyr Protestannaidd a Phabyddol yn gwrthwynebu talu’r degwm am yr un rhesymau. Mae llawer o Gristnogion yn dal i dalu degwm – ond bellach o’u gwirfodd yn hytrach na thrwy orfodaeth y wladwriaeth.

Ysgubor ddegwm, Eglwys Sempringham

Roedd fy mam yn cofio talu’r degwm. Byddai disgwyl i daliadau o’r fath fod wedi dod i ben gyda datgysylltu’r eglwys yng Nghymru, ond nid felly y bu. Yn ôl a ddeallaf yr oedd rhai pobl yn dal i dalu’r degwm tan yr 1960au a’r 1970au. Er mae’n gwbl bosib taw unigolyn oedd wedi prynu’r hawl i gasglu’r degwm oedd yn derbyn y taliadau, yr oedd yn cael ei gysylltu gyda’r eglwys ac yn un rheswm i mi gael fy magu i gredu:

  • nid yw hi’n iawn i’r wladwriaeth ymyrryd yn nhrefniadaeth yr eglwys,
  • nid yw hi’n i’r wladwriaeth ffafrio un eglwys neu grefydd dros un arall, ac
  • mae eglwys sydd i dalu am ei chynhaliaeth ei hun allan o gyfraniadau gwirfoddol ei haelodau oni bai bod y wladwriaeth, er lles pawb, yn dewis cynnig cymorth i eglwysi a chrefyddau eraill yn ddi-wahân ac heb anghyfiawnder na wahaniaethu yn erbyn unrhyw sefydliad neu fudiad arall.

Dyna un o’r rhesymau nad oedd ganddi hi na’r teulu rhyw lawer i’w ddweud wrth yr Eglwys yng Nghymru. Dwi’n gobeithio y bydd hi’n maddau imi am droi at yr eglwys honno! – ond dwi’n gwybod ei bod hi’n llawer mwy eangfrydig na finnau wrth drafod materion crefyddol.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>