Cynhadledd Plaid Cymru 2008

John Mason AS yn siarad gyda WewsDim ond wrth imi ffonio Sky TV neithiwr y sylweddolais i nad ydw i wedi dweud dim am gynhadledd Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf. Rydyn ni ym Mhlas-yn-Dogfael yn derbyn ein teledu digidol trwy Freestat from Sky ond am ryw reswm roedd rhywbeth wedi mynd o’i le ar ein cerdyn gwylio. Y rheswm imi gael fy atgoffa o gynhadledd Plaid Cymru oedd am fod y wraig a atebodd y ffôn yn Freestat from Sky wedi dweud ei bod hi’n eistedd mewn swyddfa yn Dunfirmline. Wrth geisio gwneud sgwrs tra’r oedd hi’n gwirio rhyw fanylion amdanaf ar gyfrifiadur reit araf dyma ofyn pa mor agos yr oedd i etholaeth yr isetholiad. Roedd hi’n gwybod yn iawn fy mod i’n siarad am isetholiad Gleann Rathais (Glenrothes); felly mae’n rhaid fod y peth yn newyddion pwysig yn yr Alban. Y rheswm bod hynny wedi fy atgoffa i am gynhadledd Plaid Cymru oedd fy mod wedi cyfarfod a siarad gydag enillydd isetholiad Dwyrain Glasgow, sef John Mason AS, yno. Roedd e’n ddyn serchog dros ben, ac roedd pawb arall yn weddol hapus yn y gynhadledd.

Rhagor o luniau o’r gynhadledd.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>