Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (4)
Diolch i lyfr Peter Trudgill roeddwn i’n gwybod fod yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod yn Blackfriars Hall, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble’r oedd y neuadd. Wedi ychydig o holi a chwilio fe ddeallais fod Blackfriars Hall yn rhan o’r hyn a elwir bellach yn The Halls. Mae’r adeiladau hyn yn agos i’r afon i’r gogledd o’r canol ac yn rhan bwysig o etifeddiaeth hanesyddol a phensaernïol y ddinas.
Adeiladwyd y neuaddau hyn yn 1440-70 fel eglwys y Dominicaniaid, Urdd y Pregethwyr. Ond wrth i’r mynachlogydd gael du diddymu ganrif yn ddiweddarach fe ddaeth corff yr eglwys, a elwir bellach yn St Andrews Hall yn fan cyfarfod i’r ddinas ar gyfer digwyddiadau dinesig. Trowyd y côr yn neuadd arall, Blackfriars Hall ac yno y cyfarfu’r eglwys Iseldireg o’r unfed ganrif ar bymtheg tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Erbyn heddiw mae’n bosib hurio’r neuaddau ar gyfer digwyddiadau a dyna’r rheswm na chefais gyfle i fynd i mewn i weld Blackfriars Hall yn iawn. Fel mae’n digwydd roedd ‘na ffair tedi bêrs yn cael ei chynnal yno. Ond fe lwyddais i fynd o gwmpas yr adeilad a gweld gweddill olion yr adeiladau canoloesol.
Yn ddiddorol iawn roedd ‘na gofeb i un o weinidogion yr eglwys Iseldireg wrth yr adeilad, sef Johannes Elison. Yntau a’i wraig Mary oedd unig drigolion yn Lloegr y paentiodd Rembrandt eu portreadau. Erbyn heddiw mae’r darluniau hynny yn Amgueddfa Gelf Gain Boston.







![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael