Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (1)

Safle eglwys Ffrangeg (l'église wallonne), NorwichRhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg neu Ffrangeg. Roedd y ddinas wedi gwahodd rhyw 30 teulu o’r Iseldiroedd i ddod i fyw yn Norwich yn yr unfed ganrif ar bymtheg er mwyn ceisio adfywio’r diwydiant brethyn lleol. Yn y diwedd daeth 24 o deuluoedd Iseldireg eu hiaith o Fflandrys a 10 teulu Ffrangeg o Walwnia. Ond roedd hi’n adeg o wrthdaro a gwrthryfel yn yr Iseldiroedd Sbaenaidd ac fe ddenodd presenoldeb y teuluoedd hyn nifer o ffoaduriaid i ymuno gyda hwy, siaradwyr Iseldireg yn bennaf, ond roedd ‘na siaradwyr Ffrangeg hefyd yn eu mysg. Yr enw lleol arnyn nhw oedd “The Strangers”.

Safle eglwys Ffrangeg (l'église wallonne), Norwich

Yn ei astudiaeth mae Trudgill yn nodi nifer o ddylanwadau ar dafodiaith Norfolk a Norwich y mae e’n credu sy’n dod oherwydd dylanwad Iseldireg yn bennaf. Yn ôl Peter Trudgill parodd Iseldireg, a Ffrangeg i raddau llai, i fod yn ieithoedd byw yn Norwich hyd at y ddeunawfed ganrif, ac yn grefyddol roedd ‘na eglwys Ffrangeg yn cyfarfod yn y ddinas tan 1832 ac eglwys Iseldireg tan 1890. Roeddwn i wedi gweld cofeb yn nodi’r fan lle’r oedd yr eglwys Ffrangeg ei hiaith yn cyfarfod pan fues i yn yr eglwys gadeiriol, ond fy mwriad bellach oedd ceisio dod o hyd i’r lle roedd yr eglwys Iseldireg yn addoli.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>