Fe brynais lyfr arall ar dafodiaith Norfolk yn y ddinas heddiw, sef Larn yarself Norfolk: a comprehensive guide to the Norfolk dialect (Nostalgia, 1996) gan Keith Skipper. Wrth gwrs, dyw’r llyfr yn ddim byd tebyg i gydymaith cyflawn, ond mae’n ddifyr iawn. Gyda llyfrau Trudgill a Skipper yn fy llaw dwi wedi dechrau dysgu ychydig [...]
Diolch i lyfr Peter Trudgill roeddwn i’n gwybod fod yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod yn Blackfriars Hall, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble’r oedd y neuadd. Wedi ychydig o holi a chwilio fe ddeallais fod Blackfriars Hall yn rhan o’r hyn a elwir bellach yn The Halls. Mae’r adeiladau hyn yn agos i’r afon [...]
Roedd cae pêl-droed Carrow Road yn ‘rhaid’ dim ond er mwyn talu teyrnged i Delia Smith. Enillodd ei lle mewn diwylliant poblogaidd fel cogydd teledu amlwg. Mae’n briod â Chymro, Michael Wynn-Jones ac mae’r ddau wedi bod yn gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Dinas Norwich ac wedi buddsoddi’n drwm yn y clwb dros y blynyddoedd, er mae’n [...]
Y bwriad heddiw oedd treulio diwrnod arall yn Norwich. Roedd gen i ddau neu dri o bethau yr oeddwn am ei gwneud – dod o hyd i’r lle roedd yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod a mynd i weld maes pêl-droed Dinas Norwich.
Fe wnes i adael The Village yn gynnar a chymryd y bws o gampws [...]
Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg [...]