Cyn gorffen adrodd hanes ein diwrnod yn Gressenhall mae’n rhaid imi ddweud am un peth a welais yn yr Amgueddfa wnaeth fy nifyrru’n llwyr. Roedd llofft y wyrcws yn debyg i siop elusennol o ran y trugareddau oedd i’w gweld yno. Yn eu plith oedd cwpwrdd yn llawn o borslen, gan gynnwys cwpanau a soseri a wnaethpwyd ar gyfer capeli penodol. Mae’r rhain yn wrthrychau sydd yn medru fy nghludo i yn ôl i’m plentyndod yn fwy effeithiol nag unrhyw beiriant amser. Pan dwi’n gweld y ddish a’r saser gydag enw capel arnynt dwi’n yn ôl yn festri tŷ-cwrdd Bethel, Mynachlog-ddu yn yfed te ac yn bwynta bara a chaws ar ôl y gymanfa ganu neu rihyrsal ar ei chyfer. Dwi eto i flasu te, bara a chaws tebyg i’r rhai a weiniwyd yn festrïoedd Login, Cwmfelin, Hermon a Nazareth Hendy-gwyn ar adeg y gymanfa ganu neu’r gymanfa bwnc!



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae gen i set o lestri te ac enw capel Gellimanwydd arnyn nhw ar y ddresel yma yn y ty; hollol addas gan mai Mans Gellimanwydd oedd ein ty ni gynt. Rwy wrth fy modd gyda nhw, rhaid cyfadde, ac mae’n arbennig o addas eu bod wedi cael eu hachub gan fy ngŵr rhag mynd i’r sgip.