Wrth i amser cinio ddod yn nes fe wnes i adael y fferm a mynd yn ôl am y wyrcws ei hun. Roeddwn i wedi trefnu cyfarfod gyda fy nghyd-deithwyr yn y bwyty yno. Roedd hwnnw’n werth ymweld ag ef. Bu’r tri ohonom yno yn y bore wrth inni gyrraedd ac fe gefais i sgonen gaws flasus iawn, rhywbeth nad yw dyn yn ei weld yn aml iawn y dyddiau hyn. Wrth inni eistedd yn cael cinio y dechreuodd hi fwrw ac yna tawelu eto. Aeth RO a DML am y fferm ac fe arhosais i am ychydig cyn troi am y wyrcws a dyna pryd y daeth glaw trwm. Bu’n bwrw am ryw chwarter awr a finnau’n cysgodi mewn pabell oedd wedi’i chodi fel rhan o’r penwythnos o’r 1940au oedd yn cael ei gynnal dros ŵyl y banc.
Tawelodd ddigon imi fedru mynd i’r capel i eistedd. Cysgodi oedd fy mwriad i unwaith eto. Ond fel mae’n digwydd dyna lle’r oedd man cyfarfod ar gyfer taith dywys o gwmpas y wyrcws a’r cyffiniau. Fel mae’n digwydd fe ddaeth un cawod drom arall ac fe beidiodd y glaw ac fe gafodd y rhai ohonom oedd wedi dod ynghyd ein tywys o gwmpas gan wraig oedd yn byrlymu â brwdfrydedd a chariad tuag at ei phwnc. Mae’n siŵr ei bod yn gwneud y gwaith sawl gwaith y dydd a phob dydd o’r wythnos bron. Gallai hynny olygu ei bod wedi diflasu ar yr hyn oedd ganddi i’w wneud, ond nid dyna oedd yr effaith ar ein tywysydd ni. Roedd hi fel petai wedi perffeithio ei chrefft i’r fath raddau fel ei bod yn llwyddo i adrodd ei stori yn y ffordd orau posib gan gadw diddordeb pawb – yn blant ac yn oedolion. Ac roedd ei stori yn ddiddorol iawn, stori am anghyfiawnder o’r radd flaenaf am sut roedd trethdalwyr yn credu ei bod hi’n sgandal i feddwl fod tlodion yn credu bod hawl gyda nhw i fyw ar y plwyf ac felly yn gwneud eu bywyd mor ddiflas â phosib.
Yn oes Victoria, yn dilyn gweithredu Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion 1834 arweiniodd hynny at roi cymorth ond o dan yr amodau mwyaf di-drugaredd gan gynnwyd rannu teuluoedd oddi wrth ei gilydd, a’i huno ond am hanner awr bob wythnos ar y Sul. Roedd hon yn ddeddf greulon ac nid oedd cywilydd ar Amgueddfa Gressenhall i ddweud hynny, ac nid oedd cywilydd ar ein tywysydd chwaith. Wrth gwrs i rywun oedd wedi’i fagu ar hanes y Beca doedd hynny ddim yn newydd achos roedd codi Wyrcws Arberth yn 1838 fel rhan o weithredu’r ddeddf yn un o’r ffactorau yn y terfysgoedd ar hyd a lled y gorllewin yn y 1830au a’r 1840au. Yn eironig ddigon roeddem ni ar ein taith ond ychydig ddiwrnodau yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth beth oedd y camau nesaf yn y rhaglen “work for welfare”. Nid fy mod yn dweud fod y ddau yr un peth, ond yn bendant mae cysgod syniadau oes Victoria i’w weld yn yr hyn sy’n digwydd nawr.
Roedd stori’r wyrcws yn cael ei hadrodd trwy’r hyn a ddigwyddodd i unigolion a gafodd eu hunain “ar y plwy”. Un ffordd o wneud hynny yn Gressenhall oedd wrth i actorion ail-greu cyfarfod o Fwrdd y Gwarcheidwaid gyda theulu yn dod yno i ymofyn am ymgeledd. Roedd aelodau o’r cyhoedd yn cael bod yn rhan o’r ail-greu ac roedd yn fodd effeithiol iawn o ddangos (mewn modd syml) beth oedd effaith y sustem wyrcws ar bobl gyffredin. Ar ddiwedd y perfformiad fe gawsom ein hatgoffa taw dim ond yn y 1940au gyda sefydlu’r wladwriaeth les fodern y daeth y sustem wyrcws i ben yn derfynol.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael