Roedd hi’n bygwth glaw (bron â bod am yr unig dro yn ystod y gwyliau, diolch byth!) ac felly fe benderfynais fynd yn y lle cyntaf i’r fferm. Roedd y fferm yn rhan o’r wyrcws – byddai’r preswylwyr yn gweithio yno i gynhyrchu bwyd ar gyfer y wyrcws. Bellach mae’n cael ei rhedeg fel fferm o’r 1920au, ond tipyn yn eclectig oedd y pethau oedd wedi’u casglu yn y lle. I ddweud y gwir yr oedd yn weddol debyg i’r ffermydd a’r tyddynnod yr oeddwn i yn gyfarwydd â nhw yn fy mhlentyndod a bob nawr ac yn y man roeddwn yn rhyfeddu at y ffaith fod fy mywyd i bellach mewn amgueddfa mewn ffordd o siarad.
Roedd arddangosfa o offer a hanes amaethyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif mewn ysgubor. Wedyn roedd ‘na nifer o fridiau prin mewn caeau a llocau o gwmpas y lle – gan gynnwys ceffylau Suffolk Punch, gwartheg Red Poll a moch Large Black. Wedyn roedd ‘na ieir yn crwydro o gwmpas yn bob man. Roedd nifer o bridiau yma ar ddiflannu oherwydd y newidiadau a welwyd mewn ffermio, yn arbennig felly y Suffolk Punch. Ceffyl gwaith oedd hwn ac yn hanfodol hyd nes i fecaneiddio 1940au ei wneud yn ddianghenraid.
Roedd ‘na ddau ddigwyddiad hefyd ar y fferm. Yn gyntaf arddangosfa o bedoli. Treuliais ryw hanner awr yn gwylio’r gof wrth ei waith. Ond mae’n rhaid imi gyfaddef imi gael llawer o bleser hefyd o wylio Geidiaid Norfolk yn cynnal gwersyll yn null y 1940au. Fe wnes i holi un neu ddwy ohonynt beth roedden nhw’n ei wneud ac roedden nhw’n paratoi cawl cwningen!
Bues i’n crwydro’r fferm am ryw awr a hanner cyn troi yn ôl at y wyrcws a’r arddangosfa yno.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael