Yn 1061 cafodd Richeldis de Faverches o bentref Walsingham yn Norfolk cyfres o weledigaethau pan ymddangosodd Mair, Mam ein Harglwydd iddi. Yn y gweledigaethau hyn fe gafodd wybod beth oedd hyd a lled a mesur y tŷ lle’r oedd Mair wedi byw yn Nasareth a cafodd orchymyn i godi tŷ cyffelyb ym mhentref Walsingham. Yn raddol fe ddaeth y Tŷ Sanctaidd yn Walsingham yn ganolfan i bererinion, yn arbennig felly i’r rhai nad oedden nhw’n medru fforddio y daith ddrud i’r Nasareth go iawn neu nad oedden nhw am fentro eu bywydau ar adeg y brwydro dros reolaeth ar Balesteina. Cymaint oedd poblogrwydd y ganolfan gan bererinion fel y daethpwyd i alw Walsingham yn Nasareth Fechan. Denodd y Tŷ Sanctaidd filoedd o bererinion ar hyd y canrifoedd, gan gynnwys Harri VIII, ond yn y diwedd ei weithredoedd ef fu’n gyfrifol am ddiflaniad y gysegrfa pan ddymchwelwyd y Tŷ Sanctaidd, llosgwyd y ddelw o Fair ac fe ysbeiliwyd yr holl wrthrychau gwerthfawr ddiwedd y 1530au.
Ymatebodd un o bleidwyr yr hen ffydd i’r digwyddiadau hyn yng ngeiriau’r faled The wrecks of Walsingham:
Bitter, bitter, O to behold
The grass to grow
Where the walls of Walsingham
So stately did show.Level, level, with the ground
The towers do lie,
Which, with their golden glittering tops,
Pierced out to the sky.Owls do screech where the sweetest hymns
Lately were sung,
Toads and serpents hold their dens Where the
palmers did throng.Weep, weep O Walsingham,
Whose days are nights,
Blessings turned to blasphemies,
Holy deeds to despites.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed gwelwyd adfer y gysegrfa i Fair o Walsingham. I ddweud y gwir gwnaed mwy na hynny, gan fod heddiw ddwy gysegrfa yn y cyffiniau. Saif yr un babyddol rhyw filltir i’r de o bentref Little Walsingham ei hun, ond mae’r gysegrfa Anglicanaidd reit yng nghanol y pentref ac yn cynnwys nifer o adeiladau gan gynnwys eglwys fawr sy’n cynnwys y Tŷ Sanctaidd, ac o fewn i’r Tŷ Sanctaidd ceir delw Mai’r a’r baban Iesu. Mae’r lle yn agoriad llygaid a’r adeiladau a’r gerddi yn ddeniadol iawn, ond mae’r defosiwn braidd yn ddieithr i rywrai sydd wedi’u magu ar fron anghydffurfiaeth Gymreig.
Fel rhan o’r ganolfan mae ‘na dai sy’n cynnig llety i bererinion sy’n dod i aros am hyd at bum diwrnod ac yn dilyn trefn o wasanaethau ac astudiaethau er mwyn dyfnhau eu bywydau ysbrydol. Pan roeddwn i yno fe wnes i sgwrsio gydag un neu ddau oedd ar bererindod pum diwrnod ac yn aros yn y ganolfan. Roedden nhw’n dod o Fanceinion ac yn llawn o obaith y Cristion. Roedden nhw am wybod ble’r oedd y lle agosaf i Aberystwyth ar gyfer defosiwn i Fair, Mam ein Harglwydd.
Roedd y cyfan wedi bod yn ormod i DML ac RO ac fe aethon nhw i chwilio am baned, ond bues i’n myfyrio am dipyn yn yr eglwys, ac fe es i mewn i’r Tŷ Sanctaidd, cyn mynd o gwmpas y gerddi.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael