Gwyliau yn Norwich 2008-08-21 (5)

Wedi llwyddo i ddod o hyd i safle cartref William Richards roeddem ni’n teimlo’n ddigon bodlon gyda’n hymweliad â King’s Lynn. I ddweud y gwir roedd crwydro’r dref wedi bod yn agoriad llygad ac os yw’r cyfle’n codi hoffwn i’n fawr iawn ddychwelyd yma i ddod i adnabod y lle yn well a gwneud tipyn mwy o baratoi cyn dod.

Y bwriad wedi King’s Lynn oedd dilyn yr arfordir i fyny i ogledd Norfolk. Wrth wneud hynny byddem yn mynd heibio i Sandringham – un o gartrefi preifat y teulu brenhinol – a thrwy bentrefi a threfi glan môr a rhai ohonynt yn bictwresg.

Hunstanton

Y dref fwyaf inni fynd trwyddi oedd Hunstanton. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg penderfynodd tirfeddiannwr lleol ei fod am droi’r pentref yn gyrchfan wyliau ac fe aeth ati i ddatblygu’r dref. Mae dechreuadau oes Victoria y dref yn amlwg drwyddi draw. Ond wnaethon ni ddim aros i ymweld â’r aquarium na’r theatr awyr agored. Yn hytrach fe aethon ni yn ein blaenau trwy Brancaster, Brancaster Staithe, Burnham Overy Staithe, a Wells-next-the-sea.

Brancaster Staithe

Fe wnaethon ni droi oddi ar y ffordd fawr yn Wells er mwyn mynd tuag at bentref Little Walsingham. Roedd hynny’n dipyn bach o siom i mi oherwydd roeddwn i wedi gobeithio galw heibio i’r dref nesaf ar yr arfordir, sef Stiffkey. Ond roeddwn i am fynd i Walsingham hefyd, ac felly roedd yn rhaid dewis.

Y rheswm fy mod i am fynd heibio i Stiffkey oedd cysylltiad y lle gyda chlerigwr echreiddig, sef Harold Francis Davidson (1875-1937), “The Rector of Stiffkey”. Daeth yn enwog am iddo gael ei ddiarddel o’r offeiriadaeth oherwydd honiadau am ei fywyd preifat. Teimlai alwad i weinidogaethau i buteiniaid Llundain ac fe fyddai’n gadael y plwyf ac yn treulio cymaint o’i amser ag oedd yn bosib yn gweinidogaethu iddynt, a phan nad oedd yn medru dod o hyd i buteiniaid byddai’n troi at ferched ifainc eraill. Byddai’n cymryd llyfr cyfan i adrodd ei hanes, treuliodd weddill ei oes yn taranu yn erbyn Eglwys Loegr a’i hesgobion ac yn y diwedd fe aeth i weithio mewn syrcas ac fel hyn mae ei hanes yn gorffen.

His last “turn”, alas, was the death of him. Taking his text (rather literal-mindedly) from the Bible story of Daniel in the lions’ den, he signed up with Skegness Amusement Park to appear in a lion’s cage, delivering his denunciation of the Bishop to a thunderstruck crowd. The lion, Freddie, was an alpha male, but was (Harold was assured) drugged. All went well until someone decided to put a lioness in the cage as well. On 28 July 1937, Harold finished his speech, stepped back to take applause and stood on the lioness’s tail. She let out a roar, her alpha boyfriend woke from his doped slumbers and mauled the rector.

A dyna oedd ei ddiwedd. Ond roedd ganddo gysylltiad â Sir Benfro! Daeth ei ferch, Pamela Nelson-Edwards, i gadw tafarn The Trewern Arms ym mhentref Nanhyfer a chwedyn The Angel Inn yn Arberth. Wedi dweud hyn’na i gyd wnaethon ni ddim mynd i Stiffkey. Bydd yn rhaid imi ddychwelyd yma hefyd.

Yn hytrach, fel pererinion da, dyma droi oddi wrth y glannau a mynd tuag at gysegrfan Mair o Walsingham.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>