Memoirs of the Life and Writings of the Rev. William Richards, LL. D., who Died at Lynn, September 13, 1819 By John Evans
Fel y dywedais yn gynt un o’r rhesymau dros ymweld â King’s Lynn oedd ceisio olrhain cysylltiad William Richards (1749-1818) gyda’r lle. Ganwyd Richards ym Moncath, Sir Benfro a daeth i’r amlwg fel gweinidog gyda’r Bedyddwyr Cyffredinol (hynny yw, Bedyddwyr nad oeddent yn Galfiniaid) er iddo gael ei fagu ymhlith Bedyddwyr Neilltuol (Calfinaidd) a’i fedyddio yn Rhydwilym yn 1769. Daeth hefyd i’r amlwg fel hanesydd ei dref fabwysiedig. Daeth i Lynn yn 1776 ac yno yr arhosodd tan ei farw, ond gan ddychwelyd am gyfnodau estynedig i Gymru o bryd i’w gilydd. Daeth yn weinidog yn y lle cyntaf ar gynulleidfa oedd yn cyfarfod yn Broad Street, King’s Lynn ac yn raddol fe ddechreuodd gefnu ar grefydd uniongred. Roedd yn wrth-Fethodistaidd ac yn wrth-Galfinaidd o ran egwyddor ond yn raddol troes ei gefn ar y Drindod ac yn y diwedd fe aeth yn rhy bell i’w gynulleidfa yn King’s Lynn a rhoes orau i’w weinidogaeth yno yn 1802. Yn y cyfnod wedi hynny priododd a bu farw ei wraig ac fe gyhoeddoedd ei gampwaith mewn dwy gyfrol The history of Lynn (1812). Bu farw yn 1818 yn ei gartref yn 122 Norfolk Street a’i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr Undodaidd yn Wisbech.
Aethom i chwilio am 122 Norfolk Street i ddechrau a chael fod hen safle cartref William Richards bellach yn gaffi a bwyty, Silver Spoon.
Roedd Broad Street wedi dioddef yn waeth – un ai yr oedd wedi’i bomio yn y ystod yr Ail Ryfel Byd neu wedi dioddef ailddatblygu’r 1960au. Bellach mae Broad Street yn gorwedd o dan y Vancouver Shopping Centre.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael