Gwyliau yn Norwich 2008-08-21 (2)

Fel y dywedais mae llawer am King’s Lynn sy’n atgoffa rhywun o’r Iseldiroedd. Un o’r pethau hynny yw Sgwâr Marchnad Dydd Sadwrn lle mae dyn yn teimlo ei fod wedi cerdded yn ôl i ddiwedd yr oesoedd canol a dechrau’r oes fodern. O gwmpas y sgwâr mae ‘na nifer o adeiladau trawiadol yn bensaernïol ond hefyd yn hanesyddol.

Eglwys S Margaret, King's Lynn

Yr adeilad mwyaf yw Eglwys S Margaret a sefydlwyd yn 1100 ac ail-godwyd yn y 13g, ac o hynny ymlaen ceisiodd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth wella ac ychwanegu at fawredd y lle. Mae pob rhan o’r adeilad â rhywbeth i’w ddatgelu i’r ymwelydd. Fe wna i ganolbwyntio ar dri pheth.

Yn gyntaf, yr organ. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1754 ar gost y gorfforaeth gan adeiladwr organau o’r Swistir, Johannes Snetzler (1710-1785). Cyfarwyddwyd y gwaith gan organydd yr eglwys, yr enwog Charles Burney (tad y nofelydd, Fanny Burney). Yn ôl yr hanes fe wnaeth Snetzler cymaint o enw iddo’i hun gyda’r organ fel bod galw am ei waith ym mhob rhan o’r wlad. Wrth i ni ymweld â’r eglwys fe ddechreuodd rhywun ganu’r offeryn.

Yn ail, mae’r eglwys â chysylltiad ag un o fenywod rhyfeddaf y canol oesoedd yn Lloegr, sef Margery Kempe. Fe’i ganwyd yn y dref tua 1373, priododd gan ddod yn fam i bedwar ar ddeg o blant. Wedi iddi dderbyn nifer o weledigaeth fe aeth hi a’i gŵr ar bererindod i Gaergaint. Pregethai yn erbyn pleser o bob math ac fe godai hyn wrychyn pobl yn lleol gyda rhai yn ei chyhuddo o fod yn perthyn i grŵp tanddaearol (a hereticaidd) y Lollardiaid. Yn 1413 fe wnaeth hi a’i gŵr addunedu i fyw bywydau diwair gerbron Esgob Lincoln. Aeth ar bererindod i’r Wlad Sanctaidd. Yn The book of Margarey Kempe, yr unig ffynhonnell o wybodaeth amdani, mae’n disgrifio ei theithiau a’i phrofiadau cyfriniol. Doedd hi ddim yn medru ysgirfennu na darllen ac fe wnaeth arddweud ei hatgofion i un o aelodau Urdd y Drindod. Dyma hunangofiant cynharaf gan Saesnes. Mae’r sôn olaf amdani yn mynd ar bererindod i Gdansk yn 1433.

Yn drydydd, mae’r arwyddion wrth y drws gorllewinol yn nodi uchder llifogydd ar hyd y blynyddoedd.

Llifogydd, Eglwys S Margaret, King's Lynn

Mae ‘na lawer mwy o resymau dros ymweld ag Eglwys S Margaret.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>