Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (4)

Roedd fy niwrnod cyntaf yn Norwich bron â dod i ben. Yn awr yr oedd yn rhaid mynd yn ôl i St Stephen’s er mwyn cwrdd gyda RO a DML i gael swper ac yna mynd yn ôl i’r llety ym Mrhifysgol Dwyrain Anglia.

Gwerthu ffrwythau a disgwyl bws o dan yr A147, Norwich

Roeddem wedi trefnu i gwrdd yn y caffi yn siop lyfrau Borders yng nghanolfan siopa Chapelfield. Daeth pawb ynghyd yn brydlon, ond roedd DML yn drymlwythog. Yr oedd ar ei wyliau ac wedi prynu dau lyfr yn gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, un o’i ddiddordebau mawr. Y llyfr cyntaf oedd blodeugerdd o gerddi o’r rhyfel, The winter of the world, a olygwyd gan Dominic Hibberd a John Onions. Y llall oedd hanes y gwrthwynebwyr cydwybodol yn ystod yr un rhyfel, sef We will not fight… gan Will Elsworth-Jones. Yr oedd ei hapusrwydd o gael llyfrau oedd cymaint wrth ei fodd yn disgleirio o’i wyneb!

Does dim eiliad i'w gwastraffu pan mae'n dod i ddarllen llyfr

Wedi swper mewn bwyty Tsieineaidd aethom yn ôl i The Village ar y bws. Roeddwn i wedi blino’n lân gyda’r holl bensaernïaeth a’r hanes crefyddol ac fe es i gysgu fel mochyn ymhen dim amser. Roedd yn rhaid cael cwsg er mwyn bod yn barod ar gyfer ein taith i King’s Lynn yn y bore.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>