Wedi cinio roeddwn i’n bwriadu cael profiad crefyddol a oedd bron â bod i’r eithaf arall i’r eglwys gadeiriol. Fel ardal gyfoethog hyd at y chwyldro diwydiannol, ac ardal hefyd a oedd yn agos at dir mawr Ewrop ac â chysylltiadau agos â’r Iseldiroedd, roedd syniadau newydd crefyddol a gwleidyddol yn cael gwrandawiad parod yn Norwich a Norfolk yn gyffredinol. Felly dyw hi ddim yn syndod fod anghydffurfiaeth grefyddol wedi cael lle yn gynnar yn y ddinas. Roeddwn am fynd i weld dwy esiampl bensaernïol o hyn, sef tai cwrdd yr Undodiaid a’r Annibynwyr.
I gyrraedd yr ardal hon o’r ddinas roedd yn rhaid croesi Fyebridge. Mae’n debyg taw dyma safle’r bont gyntaf i groesi afon Wensum yn Norwich. Fel mae’n digwydd mae tŷ-cwrdd The Old Meeting House yr Annibynwyr a Chapel Wythochrog yr Undodiaid yn weddol agos i’w gilydd dros y bont. Maen nhw’n sefyll yn Colegate, ardal a oedd yn bwysig yn gynnar yn hanes y ddinas oherwydd dyma lle’r sefydlwyd y Norwich gwreiddiol gan y Sacsoniaid a fan hyn daeth y Llychlynwyr ar eu hôl. Mae ôl y Llychlynwyr i’w weld yn enw’r stryd sydd yn cael ei galw’n “gate”, sef stryd, fel mewn Daneg.
Codwyd tŷ-cwrdd Eglwys Gynulleidfaol The Old Meeting House yn 1693, ond roedd yr eglwys ei hun wedi’i sefydlu yn 1643 yng nghanol bwrlwm y chwyldro Seisnig. Roedd Norwich yn gadarnle i’r senedd ac roedd hi ond yn naturiol i syniad newydd am grefydd gael lle yma. Roedd ardal Colegate yn lle ffasiynol yn y ddeunawfed ganrif. Doedd y lle ddim ar agor felly doedd dim modd imi weld y tu fewn sydd yn cadw llawer o nodweddion cynnar, ond sydd wedi’i newid dros y blynyddoedd hefyd. Efallai na fyddai’r tu fewn yn gymaint o agoriad llygaid i’r rhai sy’n gyfarwydd â chapeli Cymru.
Dafliad carreg o’r Old Meeting House saif capel wythochrog, neu Octagon Chapel, yr Undodiaid. Wrth gwrs, nid fel Undodiaid y dechreuodd yr eglwys hon chwaith. Mae ei hanes hi yn mynd yn ôl i gyfnod y chwyldro Seisnig pan sefydlwyd eglwys bresbyteraidd yma yn yr 1680au. Yn raddol metamorffeiddodd yn ddiwynyddol allan o’r teulu Trindodaidd a dyna’r rheswm taw Undodiaid sy’n cwrdd yma erbyn heddiw. Adeiladwyd y capel presennol yn 1755 ac unwaith eto roedd y lle ar gau wrth imi ymweld, ac wrth gwrs mae’r tu fewn i fod yn rheswm arbennig dros ymweld â’r lle.



![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[LinkedIn]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/linkedin.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Gwneud sylw