Efallai y dylwn ddweud taw fy hoff gydymaith i ar gyfer teithio yn Lloegr yw’r Blue guide: England gan Ian Ousby. Bydda i’n defnyddio’r degfed argraffiad (1989) a brynais yn 1992. Dwi wedi cael gwerth fy arian o’r gyfrol. Yn y lle cyntaf bydda i’n ei defnyddio fel llawlyfr ymarferol pan yn ymweld â lle go iawn. Ond yn ail bydda i’n defnyddio’r gyfrol fel cyfrwng rhithiol i deithio’r rhannau hynny o Loegr nad ydw i wedi ymweld â hwy eto neu i ddwyn ar gof y llefydd hynny lle’r ydw i wedi bod. Ers penderfynu dod i Norwich dwi wedi darllen y cofnod am y ddinas drosodd a throsodd.
Pan dwi’n dweud fod y Blue Guide yn gydymaith perffaith nid yw’n sôn am ble i fwyta, ble i aros, neu lle mae’r clybiau nos hoyw gorau mewn dinas. Nage, prif ddiddordeb y Blue Guide yw hanes, eglwysi, pensaernïaeth, diwylliant a mwy o eglwysi. Ac yn hynny o beth mae gan Norwich gyfoeth i’w gynnig i’r ymwelydd.
Roeddwn i’n gwybod y byddai’n bosib treulio o leia diwrnod arall yn Norwich, felly fy mwriad oedd peidio â gorlwytho’r diwrnod gyda gormod o goflaid. Yn hytrach roeddwn wedi gosod dau nod i mi fy hun – ymweld â’r eglwys gadeiriol ac â Chapel Wythochrog yr Undodiaid.
Fe aethom ni mewn i ganol y ddinas ar fws o gampws Prifysgol Dwyrain Anglia i Stryd St Stephens. Wedyn pwyntio DML i gyfeiriad siop lyfrau Borders yng nghanolfan siopa newydd Chapelfields gan drefnu i gwrdd yno mewn digon o amser i adael am 6.00pm.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael